Castell Coety: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwarchae |
lleihau |
||
Llinell 10:
==Gwarchae Castell Coety (1404-5)==
{{Prif|Gwarchae Castell Coety (1404-5)}}
[[Delwedd:Southern elevation of Coity Castle (geograph 2125810).jpg|bawd|chwith|Ochr deheuol y castell.]]
Ceir tystiolaeth i'r Cymry, a oedd yn gwarchae ac yn ymosod ar Gastell Coety, ddefnyddio [[powdwr gwn]]; mae'n bosib iddynt gael cymorth y Ffrancwyr gyda hyn. Yn sicr, difrodwyd y muriau gogleddol allanol yn fawr, a hynny ar ychydig wedi i [[Owain Glyn Dŵr]] gynghreirio gyda [[Ffrainc]]. Dyma'r cylch hiraf gan fyddin Cymreig yn ne Cymru; dim ond cyrchoedd y Cymry ar Harlech ac Aberystwyth (cyrchoedd llwyddiannus) a Chaernarfon (aflwyddiannus) a barodd yn hirach. Credir i'r ddau frenin: y Tywysog Glyn Dŵr a [[Harri IV, brenin Lloegr|Harri IV, brenin Lloegr]] a'i fab, y tywysog [[Harri V, brenin Lloegr]] ddod yma ryw bryd yn ystod y gwarchae.<ref>[http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/wp-content/uploads/2017/02/Coity-Castle-siege-1404-Chapman-2013.pdf Adroddiad a arianwyd gan Lywodraeth Cymru;] awdur - Dr Adam Chapman; 2013.</ref>
Llinell 32 ⟶ 33:
===Archaeoleg===
Ceir olion y gwarchae ychydig i'r gogledd o'r castell (RCAHMW 224-5), 25-35 metr o'r wal. yr ail dystiolaeth o warchae yw'r bwlch yn y wal gogleddol a chredir fod y ddau beth yma'n gystylltiedig: y peiriannau tafl a'r wal a ddinistriwyd. Mae'n fwy na thebyg mai peiriannau tafl wedi'u gyrru gan bowdwr gwn oedd y rhain; peiriant a elwir yn [[bwmbart]]. Gwyddom i'r fyddin Saesnig ddefnyddio powdwr gwn wrth warchae cestyll Aberystwyth (1407) a Harlech (1409).
Mae felly'n debygol i'r Saeson o fewn y castell ildio i'r Fyddin Gymreig, ond mae hefyd yn bosib i ail gyrch y Saeson fod yn llwyddiannus ac i'r gwarchae gael ei godi. Un peth sy'n gwbwl sicr, roedd cynnal y gwarchae am gyfnod mor hir, a'r defnydd o beiriannau bwmbart yn arwydd fod y Fyddin Gymreig yn un hynod o bwerus a soffistigedig.
|