Castell Cwm Aron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
3
Adlodd
Llinell 12:
[[Llanbister]] a [[Llangynllo, Powys]].<ref>http://www.castles99.ukprint.com/Essays/cymaron.html, http://www.gatehouse-gazetteer.info/Welshsites/845.html</ref> Llwyddodd teuluoedd y gwŷr hyn ddal eu gafael yn y tiroedd am tua can mlynedd pan gododd y Cymry lleol yn eu herbyn yn 1148.<ref name = "Remfry, 1998"/>
 
== Gwarchaeon 1195 ac 1215 ==
Noda'r ''[[Brutiau]]'' i'r castell gael ei atgyweirio yn 1144, yn dilyn cryn ymladd ym Maelienydd. Yn 1179 ceir cofnod yn y ''Pipe Rolls'' o daliadau eraill i atgyfnerthu'r castell, yn dilyn carcharu Roger Mortimer am ladd [[Cadwallon ap Madog]] (bu farw 22 Medi 1179), brenin Maelienydd, a oedd wedi'i gymryd dan ofal brenin Lloegr. Trosglwyddwyd y castell i ofal Ralph le Poer, Siryf Henffordd.
Ym Mai 1215 ymosododd Llywelyn ap Iorwerth ar dref [[Amwythig]] gan ei gipio heb lawer o drafferth; oddi yno aeth yn ei flaen i [[Trefaldwyn]] ac yna i ''Kamhawn'' (Cymaron).<ref>''The Sieges of Castell Cymaron'', adroddiad gan Gildas Research ar gyfer [[Llywodraeth Cymru]], dyddiedig Tachwedd 2013; awdur - Scott Lloyd. Adalwyd 29 Gorffennaf 2018.</ref>
 
Noda'r ''[[Brutiau]]'' i'r castell gael ei atgyweirio yn 1144, yn dilyn cryn ymladd ym Maelienydd. Yn 1179 ceir cofnod yn y ''Pipe Rolls'' o daliadau eraill i atgyfnerthu'r castell, yn dilyn carcharu Roger Mortimer am ladd [[Cadwallon ap Madog]], brenin Maelienydd, a oedd wedi'i gymryd dan ofal brenin Lloegr. Trosglwyddwyd y castell i ofal Ralph le Poer, Siryf Henffordd.
 
Yn 1195 ceir cofnod o daliadau pellach, a nodir hefyd i Abad Pershore gael ei ddirwyo gan frenin Lloegr am wrthod rhyddhau ei farchogion ar gyfer y fyddin Saesnig yn Cymaron, sy'n dystiolaeth fod byddin o Anglo-Normaniaid wedi ymgasglu yno. Sefydlwyd y gwarchae gan Feibion Cadwallon. Cipiodd y Tywysog [[Llywelyn ap Iorwerth]] y castell, fwy na thebyg yn dilyn gwarchae.
 
Ym Mai 1215 ymosododd Llywelyn ap Iorwerth ar dref [[Amwythig]] gan ei gipio heb lawer o drafferth; oddi yno aeth yn ei flaen i gipio [[Trefaldwyn]] ac yna iCastell ''Kamhawn'' (Cymaron).<ref>''The Sieges of Castell Cymaron'', adroddiad gan Gildas Research ar gyfer [[Llywodraeth Cymru]], dyddiedig Tachwedd 2013; awdur - Scott Lloyd. Adalwyd 29 Gorffennaf 2018.</ref> Ceir un cofnod o hyn, yn Nhestun-D yr ''[[Annales Cambriae]]'' a gedwir yn Exeter MS 3514 (a sgwennwyd c.1285), ac ni welodd olau dydd hyd at 1939; fe'i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1946.
 
==Mannau eraill yn yr un cyfnod==
Yn 1195, yn dilyn llwyddiant Llywelyn a'r fyddin Gymreig i gipio Castell Cymaron, cafwyd cryn lwyddiant yn ne Cymru gyda'r [[Arglwydd Rhys]] ([[1132]] – [[28 Ebrill]] [[1197]]) tywysog teyrnas [[Deheubarth]] yn cymryd Castell Colwyn (SO 108540) a [[Maesyfed (pentref)|Chastell Maesyfed]] gan ei losgi'n ulw ac yr un diwrnod cafwyd brwydr enbyd rhwng yr Arglwydd Rhys a Roger Mortimer (a'i gyfaill [[Hugh de Sais]]) ychydig y tu allan i bentref Maesyfed. Y Cymry oedd yn fuddugol.
 
Erbyn 1202 roedd yr Arglwydd Rhys wedi cymryd Castell Gwerthrynion, un arall o gestyll Roger Mortimer.
 
Yn Rhagfyr 1215 gwelwyd byddin Llywelyn Fawr yn cipio Castell Cymaron.