Ieithoedd Brythonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 19:
==Disgynyddion y Frythoneg==
===Ymwahanu'r Frythoneg===
Bu i dafodieithoedd y [[Brythoneg|Frythoneg]] ddechrau ymwahanu'n ieithoedd gwahanol pan dorrwyd eu hundod daearyddol gan fewnlifiad y Saeson. Torrwyd y cysylltiad rhwng Cymru a Chernyw yn ystod y ganrif a ddilynodd buddugoliaeth y Saeson ym [[Brwydr Dyrham|mrwydr Dyrham]] yn 577. Datblygodd y [[Cernyweg|Gernyweg]] a'r Gymraeg ar wahân. Ymfudodd carfannau o De Lloegr i [[Llydaw|Lydaw]] ar wahanol adegau. Ymwahanodd eu hiaith hwythau oddi wrth y Frythoneg neu'r Gernyweg gan esgor ar [[Llydaweg|Lydaweg]]. Torrwyd y cysylltiad â'r Hen Ogledd pan ymestynnodd brenhiniaeth Northumbria hyd at yr arfordir gorllewinol, tua chanol y 7fed ganrif. <ref name=Hanescymru> John Davies, ''Hanes Cymru'' (The Penguin Press, 1990) </ref> Datblygodd [[Hen Gymraeg]] yr Hen Ogledd ar wahân i'r Gymraeg tan iddi golli'r dydd i'r Saesneg rywbryd wedi goresgyniad tywysogaethau'r Hen Ogledd. [[Cymbrieg]] yw enw'r ieithyddion ar yr iaith hon, ac mae ei hôl i'w chlywed ar dafodiaith Saesneg pobl Cymbria hyd heddiw.
 
Ar [[Ynys Manaw]] ac yng Ngorllewin [[yr Alban]] dadleolwyd yr ieithoedd Brythoneg gan ieithoedd [[Goideleg]]. Yn Lloegr, De a Dwyrain yr Alban disodlwyd yr ieithoedd Brythoneg gan Saesneg.