Hen Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sz-iwbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: pt:Língua galesa antiga
Gweler hefyd
Llinell 9:
 
Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu '''y''' ar flaen geiriau'n dechrau ag '''s''' a chytsain arall megis '''stebill''' (ystafell), '''strat''' (ystrad). Safle'r acen yn y [[Brythoneg|Frythoneg]] oedd ar y sillaf cyn yr olaf (y goben). Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw'r sill olaf, fe fyddai’r acen ar y sill olaf o'r gair newydd, e.e. '''trīnĭtātem''' i '''trindáwd''', a'r acen ar y sill olaf '''–áwd''' (dynoda '''΄''' safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r goben i roi '''tríndawd'''. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr '''aw''' oedd bellach yn ddiacen i '''o''' gan roi'r gair modern '''trindod'''. '''Ha''' a '''hac''' oedd ein '''ac''' a'n '''a''' ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).
 
==Gweler hefyd==
*[[Brythoneg]] a [[Cymbrieg|Chymbrieg]]
*[[Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg]]
*[[Cymraeg Cynnar]]: 550 - 800
*Hen Gymraeg: 800 - 1100
*[[Cymraeg Canol]]: 1100 - 1400
 
[[Categori:Cymraeg]]