Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffredrig I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig"

Ychwanegwyd 9 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (robot yn ychwanegu: nl:Frederik I van Hohenstaufen)
B
[[Delwedd:Barbarossa.jpg|bawd|250px|Ffrederic Barbarossa]]
 
Roedd '''Ffrederic I''', llysenw '''Barbarossa''' ("barfgoch") ([[1122]] – [[10 Mehefin]] [[1190]]) yn aelod o dylwyth yr [[Hohenstaufen]], ac o [[1155]] hyd ei farwolaeth roedd yn [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]].
 
Etifeddodd dywysogaeth Swabia fel Ffrederic III, ac ar [[9 Mawrth]] [[1152]] coronwyd ef yn frenin [[yr Almaen]] yn [[Frankfurt]]. Ar [[18 Mehefin]] [[1155]] yn Rhufain, coronodd [[Pab Adrianus IV]] ef yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn [[Rhufain]]. Yn [[1156]] priododd [[Beatrix I o Fwrgwyn]], a thrwy'r briodas yma daeth [[Bwrgwyn]] yn eiddo iddo yn [[1178]].
 
Gwrthwynebwyd ef gan ddinasoedd gogledd [[yr Eidal]], a ffurfiodd [[Cynghrair Lombardi|Gynghrair Lombardi]] yn ei erbyn. Llwyddasant i'w orchfygu ym mrwydr Legnano yn 1176. Yn [[1183]], daethant i gytundeb, gyda'r finasoedd yn cydnabod Ffrederic fel ymerawdwr. Yng nghanolbarth yr Eidal, daeth i wrthdrawiad a'r Pab. Yn ne yr'r Eidal, priododd ei fab, Henri VI, a merch brenin [[Sicilia]], a llwyddasant i gipio Sicilia oddi wrth y [[Norman]]iaid.
 
Roedd Ffrederic yn un o brif arweinwyr y [[Drydedd Groesgad]], ond bu farw ar [[10 Mehefin]] [[1190]] wrth groesi afon yn [[Anatolia]], tra'n arwain ei fyddin tua'r Tir Sanctaidd. Datblygodd chwedl ar thema y'r [[Brenin yn y mynydd]] amdano yn yr Almaen. Yn ôl y chwedl, mae Ffrederic yn cysgu mewn ogof dan fynydd y [[Kyffhäuser]]. Pan mae'n deffro, mae'n gyrru bachgen i weld a yw'r cigfrain yn dal i hedfan o gylch y mynydd; pan ddiflanna'r cigfrain, bydd yn bryd i Ffrederic godi o'i gwsg.
 
Enwyd [[Cyrch Barbarossa]], sef ymosodiad yr Almaen ar yr [[Undeb Sofietaidd]] yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], ar ôl Ffrederic.