Deifr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ar:ديرا
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Teyrnas [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]] yn ngogledd-ddwyrain Lloegr yn y [[6ed ganrif]] oedd '''Deifr''' ([[Saesneg]]: '''Deira'''). Ymestynnai o [[Afon Humber]] hyd [[Afon Tees]], ac o'r môr hyd ymyl gorllewinol Dyffryn [[Efrog]]. Yn ddiweddarach fe;'i cyfynwyd a [[Brynaich]] (Bernicia) i'r gogledd i ffurfio teyrnas [[Northumbria]].
 
Mae enw'r deyrnas o darddiad [[Brythoneg]], efallai'n golygu "dyfroedd". Y brenin [[Eingl]] cyntaf a gofnodir yw [[Aella, brenin Deifr|Ælla]], y dywedir iddo gipio'r deyrnas oddi ar y [[Brythoniaid]] yn [[581]]. Wedi ei farwolaeth ef, cipiwyd Deifr gan [[Aethelfrith, brenin Northumbria|Æthelfrith]], brenin Bernicia, ac unodd ef y ddwy deyrnas. Yn ddiweddarach daeth mab Ælla, [[Edwin, brenin Northumbria|Edwin]], yn frenin y ddwy deyrnas yn [[616]] neu [[617]], a theyrnasodd hyd [[633]].