Flora Forster: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manion a Gwybodlen WD
Rob Rhys (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Roedd '''Flora FosterForster''' yn [[addysgwr|addysgwraig]] ac yn [[awdur]]. Fe'i ganwyd yn St Thomas, [[Abertawe]] yn 1896, yn ferch i Joseph ac Alice Forster. Peiriannydd ar y rheilffyrdd oedd Joseph Forster, ac roedd yn ddisgynnydd i Jonathan Forster o Wylam, un o ddyfeiswyr yr [[injan stêm]] gynnar 'Puffing Billy'. Erbyn 1911 roedd y teulu'n byw yn Penmaen Terrace uwchlaw yr Uplands yn Abertawe.
 
==Addysg==
 
Aeth Flora i Ysgol Dynevor yn y dre ac yn 1915 dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Mary Ewart i astudio Saesneg am dair blynedd yng [[Coleg Somerville, Rhydychen|Ngholeg Somerville, Rhydychen]]. Un o'i chyfoedion yno, a ffrind iddi weddill ei hoes, oedd Margaret Kennedy, a aeth yn ei blaen i greu cryn argraff yn y [[1920au]] gyda'i nofel ''The Constant Nymph''. Daeth hefyd ar draws myfyriwr hŷn o Rydcymerau yn Sir Gaerfyrddin, [[D. J. Williams]], a bu cyfeillgarwch a gohebiaeth rhwng y ddau hyd at 1925. Cedwir yr ohebiaeth yng Nghasgliad D. J. Williams yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]. Gwrthododd gynigion gan D. J. Williams i'w briodiphriodi.
 
==Llenydda==
 
Dangosodd Flora Forster addewid fel bardd yn ystod ei chyfnod yn Rhydychen, a chyhoeddwyd ei thelyneg 'Ducklington' yn ''Oxford Poetry'' yn 1917, gan dderbyn cymeradwyaeth [[Aldous Huxley]]. Dechreuodd ysgrifennu straeon i blant, a chyhoeddwyd y gyfrol ''Brown de Bracken'' gyda darluniau gan Gabriel Pippet gan Blackwell yn 1922. Troswyd un stori i'r Gymraeg gan D. J. Williams fel 'Llwyd y Rhedyn' a'i chyhoeddi yn ''[[Cymru'r Plant]]'' yn 1923. Cyhoeddodd Flora Forster ambell stori arall mewn casgliadau. Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr yn yr ohebiaeth rhyngddi a D. J. Williams yw'r modd y maent yn trafod llenyddiaeth y dydd a meysydd llafur yr ysgolion.
 
==Gyrfa: athrawes, darlithydd, prifathrawes==