Hir-a-thoddaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nodyn |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 17:
Fel arfer, ceir chwe llinell mewn hir-a-thoddaid, dwy linell degsill ychwanegol ar y dechrau.
Un o brif feistri'r mesur hwn oedd y diweddar Brifardd ac Archdderwydd [[Dic Jones]]. Dyma ei hir-a-thoddaid sy'n cloi'r awdl "Cynhaeaf", a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966:
:Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu
:A chyw hen linach yn ei olynu,
:A thra bo gaeaf bydd cynaeafu,
:A byw greadur tra bo gwerydu,
:Bydd ffrwythlonder tra pery - haul a gwlith,
:Yn wyn o wenith rhag ein newynnu.
Neu ran o'i awdl goffa, "Galarnad", i'w ferch Esyllt a fu farw'n ifanc:
:Nid yw yfory yn difa hiraeth
:Nac ymwroli'n nacau marwolaeth.
:Fe ddeil pangfeydd ei alaeth - tra bo co',
:Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth.
|