Moronen y maes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
BDim crynodeb golygu
Llinell 33:
[[Planhigyn blodeuol]] ydy '''Moronen y maes''' (enw benywaidd) sy'n perthyn i'r teulu ''[[Apiaceae]]''. Yr enw gwyddonol ([[Lladin]]) yw ''Daucus carota is-rh. carota'' a'r enw Saesneg yw ''Wild carrot''. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llys meddyglyn, Meddyglyn, Moron gwylltion, Moron y meysydd, Moronen goch, a Nyth aderyn.
 
Ers sawl canrif bellach, mae garddwyr wedi bridio'r rhywogaeth ar gyfer y bwrdd bwyd, a gelwir y math hwnnw yn [[moronen|foronen]], sydd, yn dechnegol yn [[Cyltifar|gyltifar]] o'r is-rhywogaeth yma. I'r llygad, edrychant yn bur wahanol erbyn heddiw, gyda moronen y maes yn edrych yn llai ac yn fwy eiddil. Yn y gwyllt, gall dyfu i rhwng 30 a 60 cm (1-2 troedfedd), ac mae'r bonyn yn soed, stiff a blewog. Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal. Gellir ei fwyta pan mae'n ifanc.
 
==Gweler hefyd==