Palesteina dan Fandad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gweithio ar paragraff 1 ychydig + map Cymraeg
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Yn dilyn cytundeb dirgel Sykes-Picot rhwng Prydain a Ffrainc yn 1915 cytunwyd y byddai'r ddau ymerodraeth yn rhannu'r Dwyrain Canol yn dilyn ennill y Rhyfel Mawr. Roedd y ddwy wlad i gael rheolaeth lawn neu tra-arglwyddiaeth dros y tiroedd Arabaidd i'r de o [[Anatolia]] yn dilyn cwymp disgwyladwy [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]].
 
Yn ogystal â chytundeb ddirgel Sykes-Picot yn 1916 fe addawodd Lywodraeth Prydain y byddai'n sefydlu 'Mamwlad Iddewig' ym Mhalesteina - yr hyn a elwir yn '[[Datganiad Balfour]]'. Doedd yr union dirogaeth heb ei gadarnhau na chwaith beth oedd wir ystyr y gair mamwlad gan fod y Datganiad hefyd yn addo cydnabod hawliau pobl Arabaidd frodorol y rhanbarth.
 
Gyda cwymp y Grymoedd Canolig (Ymerodraethau Yr Almaen, Awstria-Hwngari, Twrci Otomanaidd a Bwlgaria) trosglwyddwyd rheolaeth dros y tir a ddaeth yn Balesteina i Brydain - er fod y rhan fwayf o'r tir ar y pryd yn rhan o dalaith '"[[Vilayet]]'" "Syria".
 
==Tiriogaeth==
Gyda Chytundeb San Remo yn 1920 trosglwyddwyd y tiriogaeth yn ffurfiol i Brydain. Roedd '"Palesteina'" yn wreiddiol i gynnwys y cyfan o Balesteina ac Israel gyfoes a [[Gwlad yr Iorddonen]]. Roedd y ffin dde-orllewinnol yn dilyn y ffin rhwng yr Aifft (oedd eisoes o dan ddylanwad Prydain) a'r hen Ymerodraeth Otomanaidd, ac, felly, ddim yn cynnwys penrhyn [[Sinai]].
 
Roedd rheolaeth y tiriogaeth i fod yn wahanol i wladychu ymerodraethol lawn gan ei fod i'w reoli o dan "mandad" gan Gynghrair y Cenhedloedd ar y dealltwriaeth y byddai Prydain (yn nawddoglyd) yn adeiladu'r wlad a pharatoi'r brodorion ar gyfer hunanlywodraeth lawn yn y dyfodol, "until such time as they are able to stand alone".<ref>[http://avalon.law.yale.edu/20th_century/leagcov.asp#art22 Article 22, The Covenant of the League of Nations] and "Mandate for Palestine," ''Encyclopedia Judaica'', Vol. 11, p. 862, Keter Publishing House, Jerusalem, 1972</ref>
Llinell 19:
==Demograffeg==
[[File:Mandate for Palestine (legal instrument).png|thumb|Memorandwm Mandad a gyflwynwyd i Senedd Prydain, Rhagfyr 1922]]
Roedd y tiriogaeth wedi gweld ymdufo bwriadol a chyson gan [[Iddewon]] fel rhan o'r aliya i'w wlad a thrwy mudiadau [[Seionaeth|Seionistaidd]] fel [[Chofefei Tzion]]. Erbyn i Brydain gymryd rheolaeth o'r tiriogaeth roedd yr '"[[Yishuv]]'" (gymuned Iddewig) wedi dechrau adeiladu ei system addysg, iechyd, amddiffyn a thirfeddiannu ei hun, yn ogystal ag adfer yr iaith [[Hebraeg]] o dan arweiniad ac ysbrydoliaeth pobl fel [[Eliezer Ben-Yehuda]].
 
Roedd y boblogaidd Arabaidd yn dal i fod mewn mwyafrif clir dros yr Iddewon drwy gydol cyfnod y Mandad. Roedd y boblogaeth honno wedi gweld tŵ mewn niferoedd, yn rannol oherwydd bod llewyrch a gwaithgynhyrchu Iddewig a mudo i Balesteina oherwydd cynyddu cylfeoedd gwaith i'r Arabiaid.<ref>http://www.cjpme.org/fs_007</ref>
Llinell 25:
Cafodd yr ardal ei farcio gan fewnfudo mawr gan Iddewon Ewropeaidd ar ôl i'r Brydeinig ymgymryd â'r mandad yn 1920. Arweiniodd hyn at gynnydd yn lefel y gwrthdaro ac yn y pen draw, mwy o wrthryfel a gwrthdaro treisgar rhwng Iddewon a Arabaidd. Yn 1947, torrodd rhyfel cartref rhwng y partïon.
 
== Poblogaeth 1850 - 19151850—1915 (dan rheolaeth Otomanaidd) ==
[[File:Stamp_palestine_10_mils.jpg|200px|right|Stamp Mandad tair ieithog, Saesneg, Arabeg, Hebraeg]]
Yn seiliedig ar niferoedd y hanesydd Justin McCarthy (Poblogaeth Palesteina, Hanes y Boblogaeth ac Ystadegau'r Cyfnod Ottomaniaid Hwyr a'r Mandad; Gwasg Prifysgol Columbia; ISBN 0-231-07110-8)
Llinell 44:
|}
 
== Poblogaeth 1922 - 19451922—1945 (dan reolaeth Prydain) ==
{| class="wikitable"
! Blwyddyn
Llinell 61:
 
==Uwch Gomisiynwyr Prydain dros Palesteina Mandad==
* 1920 — 19251920—1925: Herbert Louis Samuel
* 1925 — 19281925—1928: Herbert Plumer
* 1928 — 19311928—1931: John Robert Chancellor
* 1945 — 19481945—1948: Alan G. Cunningham
 
==Nodweddion==