Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dileu Saesneg: yn y cywllt hwn, mae'r ddau derm 'powdwr gwn' a 'Phont Llundain' yn gwbwl eglur.
y fannod o flaen enw afon
Llinell 35:
Yn 450 O.C. roedd Llundain yn parhau i fod yn nwylo'r Brythoniaid.<ref>Hanes Cymru gan John Davies, Gwasg Penguin, 1990, tudalen 56</ref>
 
Erbyn y [[600au]], cododd yr Eingl-sacsonaidd adeiladau newydd a galw'r dref yn Lundenwic a oedd tua 1000 troedfedd i fyny’r afon o’r hen ddinas Rufeinig; bellach a elwir yn [[Covent Garden]]. Mae'n debygol y byddai harbwr wedi bod ar aber yr afon Fleet bryd hynny ar gyfer pysgota a masnachu. Tyfodd y masnachu hyd oni chafodd yr ardal ei goresgyn gan [[Y Llychlynwyr]]. Bu'n rhaid i’r ddinas ailsefydlu ei hun yn yr hen safle, sef safle Llundain Rufeinig lle'r oedd yna furiau i'w hamddiffyn. Parhaodd yr ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ne-ddwyrain Lloegr tan 886 pan ail-gipiodd [[Alfred Fawr]] y ddinas a chreu heddwch efo’r arweinydd Daneg, Guthrum. Daeth y ddinas Sacsonaidd, wreiddiol sef ‘’Lundenwic’’ yn ‘’Ealdwic’’ (Hen Ddinas), enw a oroesodd tan heddiw fel ‘’Aldwych’’ sydd yn [[San Steffan|Ninas San Steffan]].
 
[[Delwedd:London 1300 Historical Atlas William R Shepherd (died 1934).PNG|200px|dde|bawd|Map o Lundain yn 1300]]