Clwyf y traed a’r genau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 109.154.215.177 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Addbot.
Tagiau: Gwrthdroi
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 20:
 
Yn anaml iawn yw trosglwyddiad i bobl a fel arfer yn digwydd dim ond oes cyffyrddiad agos iawn gan anifeiliaid gyda'r afiechyd arnynt. Fel hynny mae'r afiechyd hon yn mwy o beryg i'r [[amaethyddiaeth]] nag i bobl eu hynain.
 
==Profiadau unigol==
*Cofio’r Clwy’ 1952: Roedd DO Jones, Padog, yn gofnodwr o fri. Dyma rai o’i sylwadau ar epidemig y clwy traed a’r genau ym mis Mai 1952:
::Saethwyd a llosgwyd yn Bryn Ddraenen 19 o wartheg a lloeau a 178 o ddefaid ac wyn. Saethwyd a llosgwyd yn Bryn Tirion 22 o wartheg a lloeau a 370 o ddefaid ac wyn. Yr oedd nifer o ddefaid ac wyn dieithr yn perthyn i’r ffermydd cyfagos ymhlith y defaid ac ŵyn a ddifawyd.
::Golygfa drist a digalon iawn oedd i’w weld yn Bryn Ddraenen ar ddydd Sul 4ydd o Fai. Tua deg o gloch y bore daeth lori Knowles, Betws y Coed ac 8 tunnell o lô i ganol [car] tŷ ac yna llwyth o goed tân a gwellt. Tua hanner dydd daeth wyth o weithwyr Williams Bros, Llanrwst i dorri twll yn ganol cae car tŷ yn ymyl ffynnon Tŷ’n Pwll. Yr oedd yn ddiwrnod poeth a chlos. Yr oedd pedwar o filfeddygon ar y fferm a phlismon yn gwarchod groesffordd Tŷ Mawr ac yr oedd hysbysiadau ''Foot and Mouth Disease No Admittance'' ar y groesffordd ac ar y cloddiau.
::Tua chwech o gloch dechreuwyd dod ar gwartheg godro, 8 ohonynt at ben y twll ac yna ei saethu hefo ''humane killer'' ar ôl rhoi dose o chlorophone [sic.] iddynt. Yr oedd y gwartheg i’w gweld dipyn yn gloff, ond roeddent yn cerdded yn iawn. Yn dilyn daeth y gwartheg hesbion o Tŷ Pwll ar lloeau bach, y rhai ohonynt yn prancio ac yn holliach; yn dilyn cafwyd y defaid ar wyn i’r cae. Yr oedd yr ŵyn bach yn rhedeg ac yn prancio ac yn llawn afiaith. Daeth lori a llwyth o hyrdls at wneud corlan ddefaid i ymyl y twll a gwneud corlan yno. Helwyd y defaid ar ŵyn bach diniwed i mewn i’r gorlan ac yna ei saethu fesul un tu nol iw pennau, ac yna ei llecho yn waed i gyd i’r twll. Tua hanner awr wedi saith daeth yn storm o law bras a thrwm, nes yr oedd pawb yn wlyb iawn. Tua naw o’r gloch dechreuwyd cynnau y tân; daethpwyd a galwyni o T.V.O i ddechrau y tân ac fe fuodd y goelcerth yn llosgi bob dydd a nos, hyd ddydd Gwener canlynol. Yn y cyfamser yr oedd amryw o weithwyr wrthi yn disinfectio y beudai, y ffordd a chae car tŷ, tynnwyd drysau i ffwrdd a chliriwyd y tail o’r beudai a llosgwyd gwellt a hen wair o gwmpas y ffarm.
::Yr oedd yr un goruchwylion ynghyd ar gwaith a gofal rhag i’r haint ymledu yn cymryd lle yn fferm Bryn Tirion, Ysbyty Ifan. Yr oedd milfeddygon yn mynd oddi amgylch y ffermydd cyfagos i edrych y gwartheg ar defaid o fewn y cylch o ddwy filltir. Yr oedd gwaharddiadau rhag symud anifeiliaid am dair wythnos o fewn cylch o bymtheg milltir. Yr oedd yn ddydd Sul Mehefin y 1af cyn y daeth ffermwyr cyfagos canlynol yn rhydd o’r gwaharddiad; Tŷ Mawr, Tŷ Nant, Tŷ Uchaf, Ochr Cefn Bach a Ochr Cefn canol. Yr oedd yn fis Fehefin ar y defaid ar ŵyn yn mynd i’r mynydd ac oherwydd hynny yn achosi colled i’r caeau gwair. Defnyddiwyd galwyni o disinfectant o bob math gan ffermwyr y cylch, yn cynnwys rhoi matiau o wellt a disinfectant arno ar y ffyrdd. Yr oedd yn adeg bryderus i ffermwyr y fro.... Y mae y llywodraeth yn talu tal llawn am yr anifeiliaid holl iach ac yn talu un rhan o dair am yr anifeiliaid â'r clwyf arnynt. Ond mae y cwbwl yn dibynnu ar faint fydd y prisiwr wedi ei prisio... Beth a ddwedai Robert Jones taid Tŷ’n Pwll tybed pe gwelai ddiadell defaid yr oedd mor ofalus ohoni yn mynd yn aberth i'r fflammau ar gae car tŷ Tŷ’n Pwll. Heddiw 13 o Orffennaf 1952 nid oes fawr o oelion i'w weld ar dwll yr aberth. Y mae y gwair wedi tyfu drosto ond erys y cof am y braw, y pryder ac am aberthu yr anifeiliaid diniwed.<ref>Dyddiadur D.O. Jones
***
Ewch i’r Tywyddiadur i weld cofnodion trist y clwy’ ym mis Mawrth 2001. Gwyntoedd gafodd y bai yn yr achos hwn gan rai papurau newydd ar y pryd, yn chwythu o’r de gan ddod â’r clwy’ yma gyda llwch o’r Sahara. Darllenwch
hefyd am yr haint yn 1968 a 1987.
 
== Cysylltiadau allanol ==