Brwydr Maesyfed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
yr union ddyn
Llinell 1:
Brwydr ger [[Maesyfed]], [[Powys]] oedd '''Brwydr Maesyfed''' gyda'r Cymry o dan arweiniad yr [[Arglwydd Rhys]] yn fuddugol a lle lladdwyd deugain o farchogion [[Roger de Mortimer o Wigmore]] a Hugh de Say yn [[1195]].
 
Hon oedd brwydr olaf Rhys, yn ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid, pan gipiodd nifer o gestyll gan gynnwys [[Castell Caerfyrddin]] a llosgi'r dref Saesnig yn ulw. Gyda chymorth llawer rhagor o filwyr Cymraeg lleol trodd i'r dwyrain gan ymosod ar [[Castell Glan Edw]] (Conwy ger Maesyfed) gyda'i beiriannau rhyfel nerthol nes i'r Saeson ildio; llosgodd y castell. Aeth yn ei flaen i gipio [[Castell Maesyfed]] a [[Castell Paun|Chastell Paun]]. O fewn dyddiau, bron, roedd ei fyddin yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger de Mortimer a Hugh de Say.