Yfed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Fel bron pob ffurf arall ar fywyd, mae pobl angen dŵr ar gyfer hydradiad meinwe. Mae diffyg hydradiad yn achosi syched, awydd i yfed sy'n cael ei reoleiddio gan yr [[Hypothalmws|hypothalamws]] mewn ymateb i newidiadau cynnil yn lefelau [[Electrolyt|electrolytau]] a chyfaint gwaed y corff. Gelwir dirywiad yng nghyfanswm dŵr y corff yn [[Dadhydriad|ddadhydradu]] ac yn y pen draw bydd yn arwain at farwolaeth.
 
== ''Yfed'' fel mwys am ''feddwi'' ==
Defnyddir y term “yfed” yn aml yn [[Trawsenwad|drawsenwad]] gyfer yfed [[Diod feddwol|diodydd alcoholig]]. Mae'r rhan fwyaf o ddiwylliannau drwy gydol hanes wedi ymgorffori nifer o'r amrywiaeth eang o "ddiodydd cryf" i'w prydau, dathliadau, seremonïau, llyncdestynau ac achlysuron eraill. <ref> Gately, tt. 1–14. </ref> Mae tystiolaeth o ddiodydd eplesu mewn diwylliant dynol yn mynd yn ôl mor gynnar â'r Cyfnod [[Oes Newydd y Cerrig|Neolithig]], <ref> Patrick, Clarence Hodges. ''Alcohol, Culture, and Society''. Gwasg AMS, 1952, t. 13. </ref> a gellir dod o hyd i'r dystiolaeth ddarluniadol gyntaf yn yr Aifft tua 4,000 CC. <ref>{{Cite web|url=http://www2.potsdam.edu/alcohol/Controversies/1114796842.html#.VICKF9xH1FI|title=Ancient Period|access-date=4 Rhagfyr 2014|website=History of Alcohol and Drinking around the World|publisher=State University of New York|last=Hanson|first=David}}</ref>