Yfed
Yfed yw'r weithred o amlyncu dŵr neu hylifau eraill i mewn i'r corff drwy'r geg. Mae angen dŵr ar gyfer llawer o brosesau ffisiolegol bywyd. Mae cymeriant dŵr gormodol ac annigonol yn gysylltiedig â phroblemau iechyd.[1]
Dulliau
golyguPan fydd hylif yn cael ei arllwys i geg ddynol agored, caiff y broses lyncu ei chwblhau gan peristalsis sy'n cludo'r hylif i'r stumog; mae llawer o'r gweithgareddau yn cael eu cynorthwyo gan ddisgyrchiant. Gellir arllwys yr hylif o'r dwylo neu gellir defnyddio offeryn yfed fel cwpanau neu gwydrau. Mae babanod yn defnyddio dull sugno lle mae'r gwefusau'n cael eu gwasgu'n dynn o gwmpas ffynhonnell, fel mewn bwydo ar y fron [2]
Hydradu a dadhydradu
golyguFel bron pob ffurf arall ar fywyd, mae pobl angen dŵr ar gyfer hydradiad meinwe. Mae diffyg hydradiad yn achosi syched, awydd i yfed sy'n cael ei reoleiddio gan yr hypothalamws mewn ymateb i newidiadau cynnil yn lefelau electrolytau a chyfaint gwaed y corff. Gelwir dirywiad yng nghyfanswm dŵr y corff yn ddadhydradu ac yn y pen draw bydd yn arwain at farwolaeth.
Diota
golyguDefnyddir y term “yfed” yn aml yn drawsenwad ar gyfer yfed diodydd alcoholig. Mae'r rhan fwyaf o ddiwylliannau drwy gydol hanes wedi ymgorffori nifer o'r amrywiaeth eang o "ddiodydd cryf" i'w prydau, dathliadau, seremonïau, llyncdestynau ac achlysuron eraill.[3] Mae tystiolaeth o ddiodydd wedi eu heplesu mewn diwylliant dynol yn mynd yn ôl mor gynnar â'r Cyfnod Neolithig,[4] a gellir dod o hyd i'r dystiolaeth ddarluniadol gyntaf yn yr Aifft tua 4,000 CC.[5]
Mae yfed alcohol wedi datblygu'n amrywiaeth o ddiwylliannau yfed sefydledig ledled y byd. Er gwaethaf ei boblogrwydd, mae yfed alcohol yn achosi risgiau iechyd sylweddol. Mae camddefnyddio alcohol a dibyniaeth ar alcoholiaeth yn drafferthion cyffredin mewn gwledydd datblygedig ledled y byd.[6] Gall cyfradd uchel o yfed hefyd arwain at sirosis, gastritis, gowt , pancreatitis, pwysedd gwaed uchel, gwahanol fathau o ganser, a nifer o afiechydon eraill.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur y Brifysgol- Yfed adalwyd 8 Ebrill 2019
- ↑ Flint, tt. 137–138.
- ↑ Gately, tt. 1–14.
- ↑ Patrick, Clarence Hodges. Alcohol, Culture, and Society. Gwasg AMS, 1952, t. 13.
- ↑ Hanson, David. "Ancient Period". History of Alcohol and Drinking around the World. State University of New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-19. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Global Status Report on Alcohol and Health" (PDF). World Health Organization. World Health Organization. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2014.
- ↑ Fiebach, t. 387.
- Llyfryddiaeth
- Broom, Donald M. (1981). Biology of Behaviour: Mechanisms, Functions and Applications. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-29906-3.
- Curtis, Helena; Barnes, N. Sue (1994). Invitation to Biology. Macmillan. ISBN 0879016795.
- Fiebach, Nicholas H., gol. (2007). Principles of Ambulatory Medicine. Lippincott Williams & Wilkins. ISBN 0-7817-6227-8.
- Flint, Austin (1875). The Physiology of Man. New York: D. Appleton and Co. OCLC 5357686.
- Gately, Iain (2008). Drink: A Cultural History of Alcohol. New York: Penguin. tt. 1–14. ISBN 1-59240-464-2.
- Mayer, William (2012). Physiological Mammalogy. II. Elsevier. ISBN 9780323155250.
- Provan, Drew (2010). Oxford Handbook of Clinical and Laboratory Investigation. Oxford: Oxford University Press. ISBN 0-19-923371-3.
- Smith, Robert Meade (1890). The Physiology of the Domestic Animals. Philadelphia, London: F.A. Davis.