Susan B. Anthony: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
 
manion
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Unol Daleithiau America}} | dateformat = dmy}}
 
[[Ffeministiaeth|Ffeminist]], [[swffragét]] a diwygiwr cymdeithasol [[Unol Daleithiau America|Americanaidd]] oedd '''Susan B. Anthony''' ([[15 Chwefror]] [[1820]] - [[13 Mawrth]] [[1906]]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am [[ymgyrchydd dros bleidlais i ferched|ymgyrchu dros bleidlais i ferched]]. Chwaraeodd ran ganolog a blaenllaw yn yr ymgyrch i gael pleidlais i fenywod, sef yr hyn a elwir heddiw yn '[[etholfraint]]'.

==Magwraeth==
Yn enedigol o deulu o [[Crynwyr|Grynwyr]], crefydd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb cymdeithasol, casglodd ddeisebau [[caethwasiaeth|gwrth-gaethwasiaeth]] pan oedd yn 17 oed. Yn 1856, daeth yn asiant gwladwriaeth Efrog Newydd ar gyfer Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth America (yr ''American Anti-Slavery Society'').
 
Fe'i ganed yn [[Adams]] ar [[15 Chwefror]] [[1820]] a bu farw yn [[Rochester, Efrog Newydd]] o [[niwmonia]] ac fe'i claddwyd yno, ym Mynwent Mount Hope. {{Cyfs personol}}
 
==Ymgyrchu==
 
Yn 1851, cyfarfu ag Elizabeth Cady Stanton, a ddaeth yn gyfaill a chydweithiwr gydol oes iddi mewn gweithgareddau diwygio cymdeithasol, yn bennaf ym maes [[hawliau menywod]]. Yn 1852, sefydlodd Gymdeithas Ddirwestol Menywod Efrog Newydd (''New York Women's State Temperance Society'') ar ôl i Anthony gael ei hatal rhag siarad mewn cynhadledd dirwestol oherwydd ei bod yn fenyw. Yn 1863, fe wnaethant sefydlu Cynghrair Cenedlaethol y Merched Teyrngar (''the Women's Loyal National League''), a gynhaliodd yr ymgyrch ddeiseb fwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau hyd at hynny, gan gasglu bron i 400,000 o lofnodion i gefnogi [[Caethwasiaeth|diddymu caethwasiaeth]].
 
Rhai cerrig filltir yn ei bywyd:
 
 
* 1866, sefydlodd Cymdeithas Hawliau Cyfartal America (''American Equal Rights Association''), a fu'n ymgyrchu dros hawliau cyfartal i fenywod ac Americanwyr Affricanaidd.
Llinell 15 ⟶ 17:
* 1869, sefydlodd Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Merched (''National Woman Suffrage Association'') pan holltwyd am gyfnod byr mudiad y merched.
* 1890, unwyd y mudiad yn ffurfiol; cyfunwyd eu sefydliad â'r Gymdeithas dros Etholfraint y Merched ''American Woman Suffrage Association'', gydag Anthony yn arwain y gymdeithas newydd.
* 1876, dechreuodd Anthony a Stanton gyd-ysgrifennu, gyda Matilda Joslyn Gage, ar yr hyn a dyfodd yn y pen draw i fod yn lyfryn chwe cyfrol: ''History of Woman Suffrage''.
 
==Ennill yr hawl i bleidleisio ==