Don Giovanni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 12:
 
==Perfformiad cyntaf==
Perfformiwyd ''Don Giovanni '' am y tro cyntaf yn [[Prag]] ar [[29 Hydref]] [[1787]] o dan arweiniad Mozart. Chwaraewyd rhan Don Giovanni gan Luigi Bassi, rhan Don Pedro gan Giuseppe Lolli a rhan Donna Anna gan Teresa Saporiti yn y perfformiad cyntaf.
 
==Cymeriadau==
Llinell 49:
===Act 1===
Wedi ei osod yn Sbaen y [[17eg ganrif|17 ganrif]]. Don Giovanni yw'r arwr [[Chwedloniaeth|chwedlonol]], ''Don Juan''. Dyn sy'n ceisio ei lwc efo unrhyw fenyw, ond yn ymadael a'i gariadon yr eiliad mae merch ddeniadol arall yn troi fyny. Mae Don Giovanni wedi rhoi cyfarwyddyd i Leporello ei was, i warchod drws wrth iddo geisio cropian i mewn i ystafell wely Donna Anna. Ond, mae hi'n sgrechian.<ref name ="glyndebourne">[https://www.glyndebourne.com/discover/opera-synopses/don-giovanni/ Glyndenbourn Don Giovani Synopsis] adalwyd 29 Medi 2018</ref> Wedi clywed y sgrech mae ei thad, y Commendatore Don Pedro, yn dod i'w chymorth. Mae Don Giovanni yn ei drywanu i farwolaeth gyda dagr, ac mae'n ffoi o'i anfadwaith gyda Leporello.<ref>[https://www.classicfm.com/composers/mozart/pictures/beginners-guide-mozarts-operas-don-giovanni/ Classic FM Don Giovanni: A beginner's guide to Mozart's operas] adalwyd 29 Medi 2018</ref>
 
Does gan Don Giovanni dim teimlad o edifeirwch am ladd Don Pedro. Wrth iddo ffoi mae'n trio ei lwc efo dynes arall mae o'n mynd heibio ar y stryd. Donna Elvira un o'i gyn cariadon yw'r ddynes ar y stryd. Mae hi'n flin efo'i ymddygiad yn ceisio ei hudo eto wedi iddo ei rhoi hi heibio am fenyw arall. Mae Don Giovanni yn ei gwthio hi at Leporello ac yn ffoi eto. Mae Leporello yn ddweud wrth Elvira i beidio â gwastraffu teimladau ar Giovanni gan ei fod yn anffyddlon i bawb. Yn y gân ''Madamina, il catalogo è questo'' ("Madam dyma'r catalog") mae Leoprello yn ddweud bod ei feistr wedi caru 640 merch yn yr [[Eidal]], 231 yn yr [[Yr Almaen|Almaen]], 100 yn [[Ffrainc]], 91 yn [[Twrci|Nhwrci]] a 1,003 yn Sbaen.<ref>[https://wno.org.uk/cy/archive/2017-2018/don-giovanni-mozart Opera Genedlaethol Cymru Don Giovanni Mozart] adalwyd 29 Medi 2018</ref>
 
Llinell 99:
 
==Gweler hefyd==
[[Don Giovanni - Disgyddiaeth|''Don Giovanni'' - Disgyddiaeth]]
 
==Cyfeiriadau==