Parc Cathays: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:36, 15 Gorffennaf 2010
Ardal ddinesig yng nghanol dinas Caerdydd, prifddinas Cymru ydy Parc Cathays. Ceir yno nifer o adeiladau o droad yr 20fed ganrif a pharc canolog, Gerddi Alexandra. Mae'n cynnwys adeiladau Cyfnod Edwardaidd megis Teml Heddwch, Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a nifer o adeiladau eraill sydd yn eiddo i gampws Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn cynnwys Llys y Goron Caerdydd, pencadlys weinyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Gorsaf Heddlu Canol Caerdydd.