Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 2600:8800:3980:2550:7091:BD52:65BA:9DBF (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Addbot.
Tagiau: Gwrthdroi
ehangu
Llinell 3:
[[Delwedd:Panorama clip3.jpg|250px|de|bawd|[[Dinas Efrog Newydd]]]]
 
Fel arfer, mae '''dinas''' yn [[anheddiad dynol]] mawr e.e. [[Paris]], [[Caerdydd]], ond gall hefyd fod o faint tref bychan e.e. [[Llanelwy]]. Yn gyffredinol mae gan ddinasoedd systemau helaeth ar gyfer tai, cludiant, glanweithdra, cyfleustodau, defnydd tir, a chyfathrebu. Mae eu dwysedd, ar y cyfan, yn hwyluso rhyngweithio rhwng pobl, sefydliadau'r llywodraeth a busnesau, sydd weithiau o fudd i wahanol bartïon yn y broses, ond gall y dwysedd hwn hefyd achosi problemau iechyd a chymdeithasol. Fel arfer, caiff dinas ei diffinio gan gorff megis llywodraeth neu eglwys, drwy siarter.
'''Dinas''' yw lle trefol.
 
Yn hanesyddol, mae trigolion y ddinas wedi bod yn gyfran fach o'r ddynoliaeth, ond ar ôl dwy ganrif o drefoli dwys, mae tua hanner poblogaeth y byd bellach yn byw mewn dinasoedd, sy'n golygu canlyniadau difrifol ar gyfer [[cynaliadwyedd]] byd-eang. Mae dinasoedd heddiw fel arfer yn ffurfio craidd ardaloedd metropolitan mwy ac ardaloedd trefol — gan greu nifer o gymudwyr sy'n teithio tuag at ganol dinasoedd ar gyfer cyflogaeth, adloniant a golygu. Fodd bynnag, mewn byd lle mae globaleiddio'n dwysáu, mae pob dinas i raddau gwahanol hefyd yn gysylltiedig, yn fyd-eang, y tu hwnt i'r rhanbarthau hyn.<ref>{{Cite book | last1= James | first1= Paul | authorlink= Paul James (academic) | last2= with Magee | first2= Liam | last3= Scerri | first3= Andy | last4= Steger | first4= Manfred B. | title= Urban Sustainability in Theory and Practice: Circles of Sustainability | url= https://www.academia.edu/9294719 | year= 2015 | publisher= Routledge | location= London}}.</ref>
 
Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', yn y [[12g]].<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html geiriadur.ac.uk;] [[Geiriadur Prifysgol Cymru]]; adalwyd 17 Mai 2019.</ref>
 
== Dinasoedd Cymru ==
{{Prif|Llywodraeth leol yng Nghymru}}
Chwe [[dinas]] sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â [[Statws dinas yn y Deyrnas Unedig|statws dinas]], mae gan [[cymuned (Cymru)|gymunedau]] [[Bangor]], [[Llanelwy]] a [[Tyddewi|Thyddewi]] statws dinas a gadarnheir gan [[breintlythyrau|freintlythyrau]].
 
* [[Abertawe]]
* [[Bangor]]
* [[Caerdydd]]
* [[Casnewydd]]
* [[Llanelwy]]
* [[Tyddewi]]
 
Yn hanesyddol roedd [[Llanelwy]] yn ddinas, gan iddi fod yn [[Esgobaeth Llanelwy|ganolfan esgobaeth]], a chyfeirir ati fel dinas yn [[Encyclopædia Britannica]] 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002.<ref>{{dyf llyfr |teitl=City Status in the British isles, 1830 - 2002 |olaf=Beckett |cyntaf=J V |blwyddyn=2005 |cyhoeddwr=Ashgate Publishing |lleoliad=Aldershot |isbn=0754650677 |tud=133 - 135}}</ref>
 
==Gweler hefyd==
*[[Dinas Efrog Newydd]]
*[[Dinasoedd y Deyrnas Unedig]]
*[[Castell Dinas]], bryngaer a chastell yn ne [[Powys]]
 
*[[Dinas Powys (pentref)]], pentref a chymuned ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]]
{{eginyn daearyddiaeth}}
*[[Dinas, Sir Benfro]], cymuned i'r dwyrain o [[Abergwaun]]
 
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}