Tawddgyrch cadwynog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newydd, ond i'w gwbwlhau eto. |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
==Nodweddion==
Amrywiad ar y '''[[rhupunt hir]]''' yw'r tawddgyrch cadwynog. Ymdebyga pennill o dawddgyrch cadwynog i ddau bennill o rupunt hir, ond gydag ychydig o newidiadau. Mae wyth llinell gan bob pennill, ac wyth sillaf ymhob llinell wedi'u rhannu yn ddwy ran bedair sillaf. Yn hytrach na bod y tri chymal cyntaf yn odli, dim ond yr ail a'r trydydd cymal sy'n odli, ond mae'r cymalau hyn yn odli'n ddwbwl â'r ail glymiad.
Yn ôl deddfiad [[Dafydd ab Edmwnd]] yn [[Eisteddfod Caerfyrddin 1451]], rhaid i bob llinell ffurfio cynghanedd groes, oddieithr y bumed a'r seithfed linell, sy'n odli'n fewnol.
Dyma enghraifft ar y mesur o waith [[Lewys Glyn Cothi]]:<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925</ref>
:''Tiriawg yd'''oedd''', tarw i gad'''au''',''
:''Tyr fwriad'''au''' trwy'i frod'''ir''';''
:''Tarian byd'''oedd''', Twrn heb wad'''au''',''
:''Teg'i rad'''au''', hwynt a gred'''ir'''.''
:''Tad cared'''ig''' tai rhwymed'''ig'''''
:''Terfyned'''ig''' tref a nod'''ir''';''
:''Tëyrn, gwled'''ig''' tref gadwed'''ig''',''
:''Tŵr caeed'''ig''', traw y cedw'''ir'''.''
Mae pob llinell ar y [[cynghanedd groes|gynghanedd groes]], oni bai am y bumed a'r seithfed, sydd yn odli'n fewnol.
Cynhelir y brifodl '''ir''' bob yn ail linell, ac mae patrwm yr odlau rhwng gorffwysfa pob clymiad (dwy linell) yn gyson, er enghraifft:
:''ydoedd - bydoedd''
:''gadau - wadau''
:''fwriadau - radau''
:''frodir - gredir''
Y mae'n fesur astrus iawn, gyda llawer o'r penillion arno wedi'u llunio er gorchest yn unig mewn [[awdl enghreifftiol|awdlau enghreifftiol]]. Sylwer ar y cymeriad llythrennol a gynhelir gan Lewys Glyn Cothi drwy gydol y pennill, sy'n dangos meistrolaeth y bardd ar ei gyfrwng.
Roedd [[Guto'r Glyn]] yn hoff iawn o'r mesur hwn.
==Cyfeiriadau==
{{Cyfeiriadau|3}}
==Llyfryddiaeth==
*[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
==Gweler hefyd==
*[[Cerdd Dafod]]
*[[Y pedwar mesur ar hugain]]
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]]
|