Elis Gruffydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
→‎Cronicl Elis Gruffydd: Erthygl newydd using AWB
Llinell 13:
 
==Cronicl Elis Gruffydd==
Sgwennwyd Cronicl o Chwech Oes y Byd rhwng 1550 a 1552, pan oedd yng ngwarchodlu byddin Lloegr, wedi'i leoli yn [[Calais]]. Mae'r Gronicl hon yn un o chwe darn o waith sydd wedi'u hychwanegu at 'Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol', gan UNESCO.<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44423751 Gwefan Cymru Fyw; BBC; adalwyd 12 Mehefin 2018.]</ref> Mae'r cronicl yn disgrifio hanes y byd o'r dechrau hyd at ddyddiau'r awdur, ac mae'n cynnwys ffeithiau hanesyddol, chwedlau traddodiadol o Gymru, a hanesion o gyfnod y [[Oes y Tuduriaid|Tuduriaid]]. Dywedodd [[Pedr ap Llwyd]], Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fod y cronicl yn "gampwaith" ond iddo fynd "braidd yn anghofiedig" erbyn hyn (2017). Dywedodd: "Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y pedair cyfrol hyn. Hwn yw'r cronicl naratif mwyaf uchelgeisiol erioed i'w greu yn yr iaith Gymraeg, a dyma'r cyfanwaith rhyddiaith hwyaf yn yr iaith. Cynrychiola hefyd yr enghraifft wybyddus gynharaf o awdur Cymreig, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, y hwnt i'r Deyrnas Gyfunol - er nad oedd, yn llythrennol, yn ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau'r Deyrnas Gyfunol ar y pryd."
 
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys barn gweision a morynion y Llys Brenhinol yn Llundain ar faterion megis perthynas Harri VIII ac [[Anne Boleyn]], a gwybodaeth am gwymp [[Thomas Cromwell]].