Llandyfrydog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
dolen
Llinell 2:
[[Plwyf]] a phentre bychan yng ngogledd-ddwyrain [[Ynys Môn]] yw '''Llandyfrydog'''. Gorwedd tua 5 milltir i'r gorllewin o [[Moelfre|Foelfre]] a thua 2 filltir i'r dwyrain o [[Llannerch-y-medd|Lannerch-y-medd]].
 
Enwir Llandyfrydog ar ôl [[Sant]] [[Tyfrydog]] (diwedd y [[6ed ganrif]]?). Ger [[Clorach]], ceir y [[maen hir]] Carreg Leidr, a enwir felly am fod dyn a ladratodd Feibl yr eglwys wedi cael ei droi'n garreg am ei gamwedd, yn ôl y chwedl. Bob Nos Nadolig mae'r maen yn fod i symud o amgylch yr eglwys deirgwaith. Hanner milltir i'r gogledd o'r eglwys ceir [[cromlech]] [[Maen Chwyf]].<ref>T. D. Breverton, ''The Book of Welsh Saints'' (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001).</ref>
 
Yn yr Oesoedd Canol gorweddai plwyf Llandyfrydog yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Twrcelyn]]. Yn ail hanner y [[14eg ganrif]], roedd gan y bardd [[Gwilym ap Sefnyn]], mab y bardd [[Sefnyn]], gyfran o dir yn Llandyfrydog (brodor o [[Llanbabo|Lanbabo]], 4 milltir i'r gorllewin, oedd ei dad, yn ôl pob tebyg).