William Robert Ambrose: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 13:
Fe fu Ambrose yn gystadleuydd brwd mewn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol. Byddai'n cystadlu yn yr adran farddonol efo ychydig bach o lwyddiant ond rhagorai yn yr adran lenyddol gan ennill lawer am ei draethodau. Cyhoeddwyd nifer o'i draethodau fel llyfrynnau. Cyhoeddwyd ei gerdd ''Marwnad i'r diweddar Hugh Jones, Ysw., Coedmadoc, a f''u'n fuddugol yng nghyfarfod llenyddol Talysarn, Nadolig, 1863 mewn cyfrol o'r enw ''Blagur Llyfnwy. ''Cafodd ei draethawd, ''Hynafiaethau Nant Nantlle a fu'n fuddugol yn eisteddfod gadeiriol Penygroes, 1871 ei gyhoeddi fel llyfryn ym 1872. Yn y llyfryn hwn ceir y cyfeiriad argraffedig gyntaf at y wraig hynod [[Marged uch Ifan]]. <ref>{{Cite web|title=MARGED vch IFAN (1696 - 1801?), ‘cymeriad’ {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-MARG-VCH-1696|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2019-09-16}}</ref> Cyhoeddwyd hefyd ei draethawd ar'' Hen Gestyll, Amddiffynfeydd, a Chaerau sir Gaernarfon.''<ref name=":0" />
 
Yn ogystal â chyhoeddi ei draethodau byddai Ambrose hefyd yn eieu ddefnyddiodefnyddio fel sail darlithoedd cyhoeddus ar gyfer cymdeithasau capeli, weithiau wedi eu darlunio gan arddangosfa ''Lantern hudolus'' (taflunydd lluniau cynnar).
 
Ar ben ei waith cyhoeddus fel pregethwr a darlithydd bu Ambrose hefyd yn gwasanaethu ei fro fel aelod o Fwrdd Ysgolion, Bwrdd Nwy a Bwrdd Claddu Talysarn.