Agor y brif ddewislen

William Robert Ambrose

gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hynafiaethydd

Roedd William Robert Ambrose (19 Ionawr, 183222 Rhagfyr,1878) yn weinidog y Bedyddwyr, yn hynafiaethydd ac yn llenor. [1]

William Robert Ambrose
Ganwyd 19 Ionawr 1832 Edit this on Wikidata
Bryncroes Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Rhagfyr 1878 Edit this on Wikidata (46 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog, hynafiaethydd Edit this on Wikidata

CefndirGolygu

Ganwyd Ambrose yn Nhŷ Capel Galltraeth, Bryncroes, Sir Gaernarfon yn un o dri phlentyn i'r Parch Robert Ambrose (1783-1833) ac Ann Pritchard ei wraig. Roedd yn gefnder i'r bardd ac emynydd William Ambrose (Emrys). [2] Bu farw'r tad ym 1833 pan nad oedd Ambrose ond flwydd oed. Ail-briododd Ann Pritchard a William Jones, dilledydd, a fu'n gyfrifol am fagwraeth Ambrose

GyrfaGolygu

Dysgodd Ambrose i fod yn ddilledydd gan ei lystad, ac fe fu'n dilyn y swydd honno yng Nghaernarfon, Lerpwl, Bangor, Porthmadog, a Thalysarn. Bu hefyd yn cadw ysgol yng Nghlynnog am gyfnod yn y 1860au. Ar ei ail dystysgrif priodas mae ei broffesiwn yn cael ei nodi fel rhwymwr llyfrau.

Ym 1856 cafodd ei fedyddio gan y Parch Dr Cefni Parry ym Mangor. Dechreuodd Pregethu ychydig yn niweddarach. Pan symudodd i Dalysarn tua 1865 nid oedd weinidog ar Gapel Ebeneser y Bedyddwyr ond fel pregethwr cymerodd Ambrose lawer o ddyletswyddau gweinidog ac yn cael ei gyfrif fel arweinydd ysbrydol y capel. Ym 1876 fe'i hordeiniwyd yn y capel a'i gyflogi fel ei weinidog. [3]

 
Hysbyseb gan Ambrose 1859

LlenorGolygu

Fe fu Ambrose yn gystadleuydd brwd mewn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol. Byddai'n cystadlu yn yr adran farddonol efo ychydig bach o lwyddiant ond rhagorai yn yr adran lenyddol gan ennill lawer am ei draethodau. Cyhoeddwyd nifer o'i draethodau fel llyfrynnau. Cyhoeddwyd ei gerdd Marwnad i'r diweddar Hugh Jones, Ysw., Coedmadoc, a fu'n fuddugol yng nghyfarfod llenyddol Talysarn, Nadolig, 1863 mewn cyfrol o'r enw Blagur Llyfnwy. Cafodd ei draethawd, Hynafiaethau Nant Nantlle a fu'n fuddugol yn eisteddfod gadeiriol Penygroes, 1871 ei gyhoeddi fel llyfryn ym 1872. Yn y llyfryn hwn ceir y cyfeiriad argraffedig gyntaf at y wraig hynod Marged uch Ifan. [4] Cyhoeddwyd hefyd ei draethawd ar Hen Gestyll, Amddiffynfeydd, a Chaerau sir Gaernarfon.[3]

Yn ogystal â chyhoeddi ei draethodau byddai Ambrose hefyd yn eu defnyddio fel sail darlithoedd cyhoeddus ar gyfer cymdeithasau capeli, weithiau wedi eu darlunio gan arddangosfa Lantern hudolus (taflunydd lluniau cynnar).

Ar ben ei waith cyhoeddus fel pregethwr a darlithydd bu Ambrose hefyd yn gwasanaethu ei fro fel aelod o Fwrdd Ysgolion, Bwrdd Nwy a Bwrdd Claddu Talysarn.

TeuluGolygu

Priododd ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Anne Griffiths. Wedi iddi hi farw ym 1860 priododd Ellen Williams gawsant dau fab. .

MarwolaethGolygu

Bu farw yn Nhalysarn yn 46 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Penygroes. [5]

CyfeiriadauGolygu

  1. "AMBROSE, WILLIAM ROBERT (1832 - 1878), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hynafiaethydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-16.
  2. "AMBROSE, WILLIAM ('Emrys'; 1813 - 1873), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-16.
  3. 3.0 3.1 Y Parch A Williams, Ystrad Rhondda (1 Awst 1880). "COFIANT Y PARCH. W. R. AMBROSE, TALYSARN". Y greal XXIX: 169 - 174. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2228113/2236904/2#?xywh=-241%2C718%2C2935%2C1914.
  4. "MARGED vch IFAN (1696 - 1801?), 'cymeriad' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-16.
  5. "MARWOLAETH Y PARCH WILLIAM AMBROSE (B) TALYSARN - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1878-12-26. Cyrchwyd 2019-09-16.