Hagiograffeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 2:
 
==Cefndir==
Yn yr [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]], roedd bri mawr ar gofnodi hanesion y seintiau gyda gweithiau hagiograffeg yn cael eu cyfansoddi mewn gwahanol ieithoedd. Lluniwyd y casgliad mwyaf, o bosibl, yn [[Lladin]] gan [[Jacobus de Voragine]], sef y ''[[LegendaY Llith AureaEuraid]]''. Defnyddid sawl ffyhonnell ganddo i lunio cofnod o hanes dwsinau o seintiau o bob math. Daeth ei waith yn ffynhonnell i nifer fawr o destunau eraill am y seintiau wrth i gyfieithwyr addasu a chyfieithu’r gwaith Lladin poblogaidd hwn.
 
Bydd gweithiau hagiograffeg Cymraeg yn aml yn defnyddio'r term ''buchedd'' yn eu teitlau (o ''byw'' + ''(gw)edd'')<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur y Brifysgol]</ref> er enghraifft ''Buchedd Mair Wyry'' yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]]<ref>[https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/oriel-ddigidol/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-gwyn-rhydderch/ Llyfr Gwyn Rhydderch Cyfeirnod: Peniarth MS 4]</ref> , neu ddrama radio hagiograffeg [[Saunders Lewis]], ''[[Buchedd Garmon]]''. Geiriau o'r un tarddiad yw ''Buhez'' [[Llydaweg]] a ''Bywnans'' [[Cernyweg]]<ref>[https://books.google.co.uk/books?id=jG_AAgAAQBAJ&pg=PA80&lpg=PA80&dq=Bywnans&source=bl&ots=ZQ7VIvvVyc&sig=qchc949RVBLoEj43Zuy_qeD4nCY&hl=en&sa=X&ved=0ahUKEwiVw4LEh9rRAhWDyRoKHdSJA8sQ6AEI2AEwJg#v=onepage&q=Bywnans&f=false Studies on the Collective and Feminine in Indo-European from a Diachronic and Typological Perspective]</ref>
 
== Hagiograffeg Saint Cymreig==
Credir i waith Jacobus de Voragine ddylanwadu ar rai o’r testunau Cymraeg a luniwyd o’r [[14g]] ymlaen. Fodd bynnag, nid y ''LegendaLlith AureaEuraid'' yw ffynhonnell pob buchedd Gymraeg gan fod hanesion nifer o’r seintiau brodorol yn unigryw ac wedi eu cofnodi yn y Gymraeg yn unig, a’u cynsail – boed yn Gymraeg neu’n [[Lladin]] – wedi mynd yn angof. Cedwid hwy mewn gwahanol lawysgrifau a chopiwyd hwy gan sawl ysgrifydd o’r [[13g]] ymlaen, gyda’r casgliad mwyaf swmpus yn ymddangos yn [[Llawysgrifau Llansteffan|llawysgrif Llansteffan 34]]<ref>[https://www.llgc.org.uk/cy/casgliadau/dysgwch-fwy/introduction0/llawysgrifaullanstephan/ Llawysgrifau Llanstephan]</ref> (dechrau’r [[11g]]). Wrth gwrs, roedd canrifoedd rhwng cyfnod tybiedig y sant a’r cyfnod pan yr ysgrifennwyd y testun cynharaf am y sant hwnnw. Mae’r testunau rhyddiaith cynharaf sydd wedi goroesi yn y Gymraeg yn cynnwys hanes [[Dewi Sant|Dewi]], [[Beuno]] a rhai o’r santesau rhyngwladol, megis Margred, Catrin a Mair o’r Aifft.
 
===Cerddi hagiograffeg Cymraeg===
Llinell 21:
* [[Bywnans Ke]]
* [[Collen (sant)]]
* [[LegendaY AureaLlith Euraid]]
* [[Llyfr Gwyn Rhydderch]]
* [[Pascon agan Arluth]]