20fed ganrif yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 18:
[[Delwedd:Siaradwyr y Gymraeg ym Mhrif Ardaloedd Cymru.png|200px|bawd|Canran siaradwyr Cymraeg fesul awdurdod lleol, yn ôl Cyfrifiad 2001]]
Yn [[1911]] roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad [[Cymraeg]]. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o Cymry ifainc yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]] ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng [[1921]] a [[1939]].
 
Cymraeg oedd iaith gyntaf mwyafrif pobl Cymru hyd at yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau'r 19fed ganrif credid bod 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn unig, 10% yn ddwyieithog ac 20% yn uniaith Saesneg. Erbyn diwedd y 19eg ganrif dim ond hanner y boblogaeth oedd yn medru'r Gymraeg - canlyniad nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys dyfodiad y [[Rheilffordd|rheilffyrdd]] i Gymru a'r mewnlifiad o filoedd o bobl o [[Lloegr|Loegr]] i weithio yn bennaf yn ardaloedd diwydiannol y wlad.  Lladdwyd cenhedlaeth gyfan o siaradwyr Cymraeg oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymfudodd llawer rhwng y ddau ryfel byd, yn enwedig adeg y Dirwasgiad.
 
 
Gwelodd yr 20fed ganrif frwydrau yn cael eu hennill dros roi lle i’r iaith ym mywyd cyhoeddus Cymru, er enghraifft, yn y gyfraith.  Yn ystod [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol 1938]], dan arweiniad [[Undeb Cymru Fydd]], dechreuwyd casglu enwau ar gyfer Deiseb Genedlaethol. Diben y Ddeiseb oedd hawlio statws i'r iaith Gymraeg 'a fyddai'n unfraint â'r Saesneg ym mhob agwedd ar weinyddiad y gyfraith a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru'. Arwyddwyd y Ddeiseb gan dros chwarter miliwn o bobl a chafwyd cefnogaeth 30 allan o'r 36 Aelod Seneddol Cymreig.  Arweiniodd hyn at Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 a ganiataodd y defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn ond methwyd a sicrhau hawliau ehangach.
 
 
Bu darllediad [[Saunders Lewis]] yn Narlith Radio flynyddol y BBC yn Chwefror 13 1962 yn un o’r trobwyntiau pwysicaf yn hanes Cymru. <blockquote>'Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'.  </blockquote>
[[Delwedd:Protest_gyntaf_Cymdeithas_yr_Iaith,_Pont_Trefechan,_1963.jpg|alt=|bawd|182x182px|Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, ar Bont Trefechan.]]
Roedd ganddo neges glir y byddai’r iaith yn marw onibai bod ei siaradwyr yn
 
barod i’w hamddiffyn ac i ymgyrchu dros sicrhau ei pharhad a’i dyfodol.  Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau. Arweiniodd ei araith at sefydliad [[Cymdeithas yr Iaith]] yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontardulais yn 1962 a bu’r Gymdeithas yn allweddol yn sicrhau bod Deddf Iaith 1967 yn cael ei phasio. Yn Chwefror 1963 trefnodd y Gymdeithas y protestiadau torfol cyntaf pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan Aberystwyth gan fyfyrwyr o [[Aberystwyth]] a [[Bangor]].  Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau didrais tebyg a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain oedd y canwr poblogaidd [[Dafydd Iwan]].  Am gyfnod peintiwyd neu ddifrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru.
 
 
Bu ymgyrchoedd ym myd addysg hefyd dros hawliau'r iaith Gymraeg.  Profodd yr ugeinfed ganrif i fod yn hollbwysig yn sefydlu’r Gymraeg nid yn unig fel pwnc astudio ar gwricwlwm dysgu ysgolion Cymru ond hefyd fel cyfrwng dysgu.  Ers cyhoeddi Adroddiadau Addysg 1847, a adnabyddwyd yng Nghymru fel ‘[[Brad y Llyfrau Gleision]] roedd y Gymraeg wedi cael ei phardduo fel iaith anwaraidd nad oedd defnydd na lle iddi yn yr oes fodern, ddiwydiannol newydd.  Roedd cyflwyniad y [[Welsh Not]] yn y 1870au yn ysgolion Cymru wedi magu ymdeimlad o warth a chywilydd ymhlith ei siaradwyr ond gyda chychwyn yr ugeinfed ganrif dechreuwyd weld tro ar fyd yn agweddau tuag at y Gymraeg.   Dan ddylanwad [[Owen Morgan Edwards|Owen M Edwards]], Prif Arolygydd Ysgolion Cymru o 1907 hyd 1920, hyrwyddwyd yr iaith Gymraeg mewn ysgolion cynradd a dysgwyd iaith a llenyddiaeth Gymraeg fel pwnc yn yr ysgolion uwchradd a sefydlwyd o ganlyniad i Ddeddf 1889. Fodd bynnag, awyrgylch Seisnig a gafwyd yn yr ysgolion uwchradd hyn, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig.
 
Roedd y teulu Edwards yn ganolog yn sicrhau cefnogaeth i’r iaith yn y negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif gyda mab Syr O.M Edwards yn sefydlu mudiad Urdd Gobaith Cymru yn 1922.  Ehangodd y mudiad yn nes ymlaen yn y ganrif gyda agor gwersylloedd ieuenctid [[Urdd Gobaith Cymru|yr Urdd]] yng [[Gwersyll yr Urdd Glan-llyn|Nglanllyn]], ger Y Bala ac yn Llangrannog, Ceredigion sy’n parhau hyd heddiw.
 
 
Yn 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, yn Aberystwyth sefydlwyd yr ysgol gyntaf i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Gan fod cymaint o faciwis di-Gymraeg wedi cyrraedd y dref o ddinasoedd Lloegr er mwyn osgoi'r bomio, a gan eu bod yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion lleol, roedd dysgu'r Gymraeg ynddynt yn anodd. Felly penderfynodd [[Ifan ab Owen Edwards|Syr Ifan ab Owen Edwards]] (mab Owen M Edwards) sefydlu [[Ysgol Gymraeg]] Urdd Gobaith Cymru gyda saith o ddisgyblion.  Derbyniai'r disgyblion eu gwersi i gyd yn y Gymraeg. Maes o law daeth mwy o blant i'r ysgol ac ar ôl ymgyrchu brwd fe'i sefydlwyd yn ysgol swyddogol o dan yr awdurdod addysg lleol wedi'r Rhyfel.
 
Sefydlwyd ysgolion Cymraeg eraill ledled Cymru wedi hynny ac yn 1956 agorwyd [[Ysgol Glan Clwyd]] yn y Rhyl, yr ysgol uwchradd gyntaf lle roedd y Gymraeg yn gyfrwng dysgu. Erbyn 1975 roedd 7 ysgol uwchradd ddwyieithog wedi'u sefydlu. Yn aml, canlyniad ymgyrchu diflino gan rieni a mudiadau oedd sefydlu'r ysgolion hyn.
 
Gwirfoddolwyr oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu [[Mudiad Ysgolion Meithrin]] yn 1971 i ddarparu addysg feithrin Gymraeg i blant o dan bump oed. Erbyn canol y '90au roedd dros fil o grwpiau meithrin yn bodoli o dan nawdd y Mudiad.
 
==Crefydd==
Profodd yr ugeinfed ganrif i fod yn gyfnod a welodd crefydd yng Nghymru yn raddol dirywio a chrebachu o ran niferoedd yr addoldai a’r nifer o aelodau oedd yn mynychu addoldy.  Ar droad y ganrif yr oedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o [[eglwys]]. Yn [[1900]] roedd gan y [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid Calfinaidd]] 158,111 o aelodau, yr [[Annibynwyr]] 144,000 a'r [[Eglwys y Bedyddwyr|Bedyddwyr]] 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlunroedd oy ddirywiadniferoedd wedi lleihau yn enbyd.  Adlewyrchwyd y newid yma tuag at werthoedd crefydd gyda’r newid mewn agwedd tuag at agor tafarndai ar y Sul.  Er bod Deddf Cau’r Tafarndai yng Nghymru wedi ei phasio yn 1881 a geiroedd yn deddfu nad oedd unrhyw dafarn i fod ar agor ar ddiwrnod y Sabath roedd newid wedi dod ar droed erbyn dechrau’r 1960au.  Mewn sawl reffernda a gynhaliwyd rhwng y 1960au – 1980au erbyn 1982 dim ond dwy sir oedd dal yn cau ei thafarndai ar y Sul.
 
== Patrymau mudo yng Nghymru ==
Erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd dros 1,000 o [[Yr Eidal|Eidalwyr]] yn byw yng Nghymru. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio mewn caffis neu siopau [[hufen iâ]], ond daeth rhai ohonynt o hyd i waith ar y [[môr]] neu yn y pyllau glo a’r gweithfeydd dur. Roedd llawer wedi dod o ardal Bardi yng ngogledd yr Eidal a oedd yn ffoi rhag yr amodau ffermio gwael yn yr ardal honno. Cafodd yr Eidalwyr effaith sylweddol ar fywyd yng Nghymru. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd gan bob tref fach yng Nghymru ei chaffi Eidalaidd ei hun ac erbyn 1939 roedd 336 ohonynt yn Ne Cymru. Fe’u galwyd yn “siopau Bracchi” (ar ôl Giacomo Bracchi, y dyn y credir iddo ddod â hufen iâ a danteithion Eidalaidd i Dde Cymru). Daethant yn fan casglu cymdeithasol, gan gynnig dewis amgen rhad di-alcohol i dafarndai a chlybiau.
 
Roedd pum caffi ar Taff Street ym [[Pontypridd|Mhontypridd]] a saith arall mewn rhannau eraill o’r dref. Roedd y caffis Eidalaidd yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr yn ystod diwrnodau tywyll y Dirwasgiad. Gallai dynion diwaith wneud i baned o de neu goco bara oriau yng nghynhesrwydd a chyfforddusrwydd y caffi lleol – a phan roedd pethau’n anodd, byddai’r bil yn aml yn cael ei roi o’r neilltu nes bod pethau’n gwella yn y pentref. Cafodd y gymuned [[Cymry Eidalaidd|Gymreig-Eidalaidd]] effaith mewn ffyrdd eraill hefyd.  Agorodd y brodyr Frank ac Aldo Berni, oedd wedi dechrau eu busnes ym [[Merthyr Tudful]], y Berni Inn cyntaf yn 1956. Erbyn 1970, pan werthwyd y 147 o fwytai a gwestai, hon oedd y gadwyn fwyaf o fwytai y tu allan i’r Unol Daleithiau. Daeth Eidalwyr Cymreig yn enwog mewn meysydd gwahanol;
 
* [[Joe Calzaghe]] (paffiwr)
* Enzo Maccarinelli (paffiwr)
* [[Victor Spinetti]] (actor)
* Robert Sidoli (chwaraewr rygbi rhyngwladol)
* Angela Hartnett (cogydd)
* [[Andrew Vicari]] (arlunydd)
 
Parhaodd y mewnfudo i Gymru tan ddechrau’r [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf,]] ond yn y 1920au a’r 1930au gadawodd llawer o bobl y wlad wrth i’r diwydiannau trwm traddodiadol (e.e. [[glo]], [[dur]] a [[Llechfaen|llechi]]) grebachu. Ychydig iawn o fewnfudo a welwyd wrth i economi Cymru arafu. Fodd bynnag, yn y 1930au daeth tua 40,000 o [[Iddewon]] a oedd yn ffoi rhag erledigaeth y [[Natsïaeth|Natsïaid]] i Brydain. Ymgartrefodd rhai ohonynt yng Nghymru, lle y gwnaethant helpu i sefydlu ystâd fasnachu Trefforest. Yn y 1930au hefyd gwelwyd dau grŵp o blant yn ymfudo i Gymru oherwydd y tensiynau gwleidyddol oedd yn Ewrop ar y pryd:
 
Yn 1937, daeth 4,000 o blant o [[Gwlad y Basg|Wlad y Basg]] a oedd yn ffoi’r rhyfel cartref yn [[Sbaen]] i [[Prydain Fawr|Brydain]]. Daeth mwy na 200 ohonynt i [[Caerllion|Gaerllion]], [[Abertawe]], [[Hen Golwyn]] a [[Brechfa]] yn Sir Gaerfyrddin.
 
Yn 1938-9, teithiodd 10,000 o blant Iddewig i’r DU mewn ymgyrch o’r enw Kindertransport. Aeth tua 200 ohonynt i [[Castell Gwrych|Gastell Gwrych]] ger [[Abergele]].
 
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd prinder [[llafur]] yn broblem fawr ym Mhrydain ac aeth y llywodraeth ati i annog pobl i fudo i’r wlad. Daethant o amrywiol fannau. Yn ystod y rhyfel, ymladdodd llawer o [[Pwyliaid|Bwyliaid]] (yn ogystal â Tsieciaid ac [[Wcreiniaid|Wcraniaid]]) ar ochr y cynghreiriad. Ar ôl y rhyfel, wrth i [[Dwyrain Ewrop|Ddwyrain Ewrop]] ddisgyn i gomiwnyddiaeth, penderfynodd llawer ohonynt sefyll ym Mhrydain, rhai oherwydd eu bod yn casáu comiwnyddiaeth a rhai eraill oherwydd y cysylltiadau yr oeddent wedi’u gwneud yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Nododd cyfrifiad 1951 fod 160,000 o Bwyliaid yn byw yn y Deyrnas Unedig. Cafodd llawer ohonynt eu lleoli i ddechrau mewn gwersylloedd ailgyfanheddu (hen ganolfannau milwrol yr Unol Daleithiau yn aml) fel yr un ym [[Penrhos, Gwynedd|Mhenrhos]], Gwynedd, a ddaeth yn “Bentref Pwylaidd” gyda’i eglwys, ei lyfrgell, ei ystafelloedd cyffredin, ei siop a’i randiroedd ei hun.
 
 
Fodd bynnag, nid oedd y mewnfudwyr Pwylaidd hyn, na’r don newydd o fewnfudwyr o’r Eidal, yn ddigon i fynd i’r afael â'r prinder llafur. Felly, yn y 1950au a’r 1960au dechreuodd mewnfudwyr o wledydd newydd y Gymanwlad gyrraedd Prydain. Daeth rhai pobl i Brydain hefyd oherwydd diweithdra yn y [[Y Caribî|Caribî]] a’r dadleoli yn dilyn yr ymrannu yn [[India]].  Ar ddiwedd y 1960au ac ar ddechrau’r 1970au, daeth Asiaid o [[Cenia]] ac Asiaid o [[Wganda]] i Brydain hefyd er mwyn ffoi rhag erledigaeth. (Fel y Pwyliaid gynt, cafodd Asiaid o Wganda eu lleoli i ddechrau mewn hen ganolfannau milwrol, fel yr un yn [[Tonfanau|Nhonfanau]] ger Tywyn).
 
 
Ymgartrefodd rhai ymfudwyr o’r Gymanwlad yng Nghymru, yn enwedig yn y dinasoedd. Fodd bynnag, o 1962 ymlaen, gosodwyd rheolau mewnfudo mwyfwy llym ar fewnfudwyr o’r Gymanwlad. Serch hynny, drwy gydol y 1960au a’r 1970au, cafodd mwy na 70,000 o ddinasyddion o’r Gymanwlad eu derbyn i Brydain bob blwyddyn.
 
 
Yn 1973, ymunodd y Deyrnas Unedig gyda’r [[Yr Undeb Ewropeaidd|Undeb Ewropeaidd]].  Golygai hyn y gallai dinasyddion o aelod-wladwriaethau eraill ddod i’r Deyrnas Unedig i weithio. I ddechrau, roedd nifer yr ymfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn isel – ychydig dros 7,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ar draws y wlad. Fodd bynnag, ar ddiwedd y 1990au gwelwyd cynnydd dramatig wrth i ymfudwyr o aelodwladwriaethau newydd yr Undeb Ewropeaidd yn Nwyrain Ewrop ddod i Brydain i chwilio am waith. Rhwng 2001 a 2001, daeth bron 3,000,000 o fewnfudwyr i’r Deyrnas Unedig. Roedd y lefel hon o fewnfudo yn fwy nag a welwyd erioed o’r blaen i’r Deyrnas Unedig. Ers 2004, mae mwy na 16,000 o fewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop wedi cofrestru i weithio yng Nghymru (1% o’r cyfanswm a gyflogir) gyda mwy na hanner ohonynt mewn pedair ardal ([[Sir Gaerfyrddin]], [[Caerdydd]], [[Casnewydd]] a [[Wrecsam]]).
 
==Rhai uchafbwyntiau==