Cemegydd yw Ada E. Yonath (Hebraeg: עדה יונת; ganwyd 22 Mehefin 1939 yn Jerwsalem)[1] a astudiodd yn y Weizmann Institute of Science yn Israel. Enillodd y Wobr Nobel mewn Cemeg am waith ar strwythur y ribosom yn 2009[2] gyda Venkatraman Ramakrishnan a Thomas A. Steitz. Hi yw'r ferch gyntaf o'r Dwyrain Canol i ennill y wobr hon.[3]

Ada E. Yonath
Yr Athro Ada E. Yonath yn ystod ei hymweliad a Kerala yn 2013.
GanwydAda Lifshitz
(1939-06-22) 22 Mehefin 1939 (84 oed)
Jeriwsalem, Palesteina dan Fandad Prydain
Bu fyw ynIsrael
MeysyddGrisialeg
SefydliadauSefydliad Gwyddonol Weizmann
Alma materPrifysgol Hebraeg Jeriwsalem
Enwog amCryo bio-grisialeg
Prif wobrauGwobr Harvey (2002)
Gwobr Wolf mewn Cemeg (2006)
Gwobrau L'Oréal-UNESCO i Ferched mewn Gwyddoniaeth (2008)
Gwobr Albert Einstein mewn Gwyddonaeth (2008)
Wobr Nobel mewn Cemeg (2009)

Er iddi arbenigo mewn grisialeg, mae'n fwyaf nodedig am ei gwaith ar strwythyr y ribosom. Yn 2016 roedd yn gyfarwyddwraig Canolfan Helen a Milton A. Kimmelman yn Sefydliad Gwyddonol Weizmann.

Magwraeth golygu

Ganwyd Yonath (née Lifshitz)[4] yn ardal Geula o Jeriwsalem.[5] Symudodd ei rhieni Hillel ac Esther Lifshitz, i'r ardal o Zduńska Wola, Gwlad Pwyl yn 1933, cyn creu'r Israel bresennol.[6] Rabi oedd ei thad oedd hefyd yn rhedeg siop nwyddau. Oherwydd fod arian yn brin, roedd sawl teulu'n byw yn yr un tŷ. Daeth llyfrau'n gwmni iddi - yr unig gwmni, meddai'n ddiweddarach. Llwyddodd ei rhieni iddi gael ei derbyn mewn ysgol yn Beit HaKerem, lle cafodd addysg dda. Pan y bu ei thad farw pan oedd yn 42 oed, symudodd y teulu i Tel Aviv.[7] Derbyniwyd Yonath i Ysgol Uwchradd Tichon Hadash, er nad oedd ei thad yn medru talu'r ffioedd; rhoddodd Yonath wersi mathemateg i ddisgyblion eraill er mwyn iddi fedru talu.[8] Ei harwres pan oedd yn blentyn oedd y gwyddonydd Marie Curie.[9] Dychwelodd i Jeriwsalem am ei choleg a derbyniodd radd mewn cemeg yn 1962, a gradd meistr mewn biocemeg yn 1964. In 1968, cafodd yn Sefydliad Gwyddonol Weizmann mewn astudiaeth pelydr-X o risialeg collagen, gyda Wolfie Traub yn gofalu amdani.[10][11][12]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Israel Prize Official Site (mewn Hebraeg) – Recipient's C.V."
  2. (Saesneg) Structure and Function of the Ribosome. The Royal Swedish Academy of Sciences, 7th o Hydref. Archifwyd 2016-04-09 yn y Peiriant Wayback.
  3. Lappin, Yaakov (2009-10-07). "Nobel Prize Winner 'Happy, Shocked'". Jerusalem Post. Cyrchwyd 2009-10-07.
  4. "מנכ"ל המדינה (tud. 4; 18.11.09 "ידיעות אחרונות") PDF" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-04-25. Cyrchwyd 2016-05-05.
  5. "Ada Yonath— L'Oréal-UNESCO Award". Jerusalem Post. 2008-03-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-17. Cyrchwyd 2021-12-26.
  6. István Hargittai, Magdolna Hargittai “Candid science 6”: Interview with Ada Yonath (tud. 390): Yn y ffynhonnell hon, sillefir ei chyfenw fel Livshitz.
  7. "Israeli professor receives Life's Work Prize for women in science". Ministry of Foreign Affairs. 2008-07-28.
  8. [https://web.archive.org/web/20120117223623/http://fr.jpost.com/servlet/Satellite?cid=1204546432149&pagename=JPost%2FJPArticle%2FShowFull Archifwyd 2012-01-17 yn y Peiriant Wayback. Former 'village fool' takes the prize, Jerusalem Post]
  9. "ISRAEL21c - Uncovering Israel". Israel21c.
  10. "(IUCr) European Crystallography Prize". iucr.org.
  11. Traub, Wolfie; Yonath, Ada (1966). "POLYMERS OF TRIPEPTIDES AS COLLAGEN MODELS .I. X-RAY STUDIES OF POLY (L-PROLYL-GLYCYL-L-PROLINE) AND RELATED POLYTRIPEPTIDES". Journal of Molecular Biology 16 (2): 404. doi:10.1016/S0022-2836(66)80182-1.
  12. Yonath, Ada; Traub, Wolfie (1969). "POLYMERS OF TRIPEPTIDES AS COLLAGEN MODELS .4. STRUCTURE ANALYSIS OF POLY(L-PROLYL-GLYCYL-L-PROLINE)". Journal of Molecular Biology 43 (3): 461. doi:10.1016/0022-2836(69)90352-0.