Cynnyrch bychan wedi'i pobi yw bisged (lluosog: bisgedi); mae union ystyr y gair yn amrywio ar draws y byd. Daw'r gair yn wreiddiol o'r Lladin, trwy Ffrangeg canol ac mae'n golygu "wedi ei goginio ddwywaith". Roedd hard tack y forlu Brydeinig yn un o'r bisgedi cynharaf, a phasiwyd hyn ymlaen trwy ddiwylliant Americanaidd. Cynhyrchwyd bisgedi Hard Tack drwy'r 19eg ganrif.

Bisged
Mathcookie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bisgedi Prydeinig golygu

 
Bisgedi digestif Prydeinig

Cynnyrch fflat a chaled wedi ei bobi yw bisged, a gall fod yn felys neu'n sawrus. Gall gael ei alw'n "cwci" neu'n "cracyr" yng Ngogledd America. Mae'r term bisged hefyd yn cyfeirio at fisged fel brechdan, sydd â haenen o eisin neu hufen rhwng dau fisged. Ym Mhrydain, defnyddir y gair cwci i gyfeiro at math arbennig o fisged yn unig, sef un meddalach megis "cwci sglodion siocled".

Gweler hefyd golygu