Bisged ddigestif
Bisged a ddaw o Brydain yw bisged ddigestif sy'n boblogaidd ar draws y byd. Gwneir gan amlaf o flawd gwenith brown, siwgr, gwenith trwyddo, olew llysiau, halen, a chodyddion. Caiff rhai eu gorchuddio gan siocled ar un ochr.
Math | Bisged, bwyd |
---|---|
Rhan o | Scottish cuisine |
Dechrau/Sefydlu | 1839 |
Yn cynnwys | blawd gwenith |
Enw brodorol | digestive biscuit |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymreigiad o'r gair Saesneg digestive, sef treulio, yw "digestif". Daw'r enw o'r gred hanesyddol bod ganddynt briodweddau gwrthasidig oherwydd maent yn aml yn cynnwys sodiwm deucarbonad. Yn ôl chwedl drefol, ni all bisgedi digestif gael eu gwerthu yn yr Unol Daleithiau dan yr enw Saesneg digestive biscuit gan nad ydynt yn treulio eu hunain, ond nid yw hyn yn wir.