Cynghrair Europa UEFA

Cystadleuaeth bêl-droed flynyddol i glybiau pêl-droed Ewrop sy'n cael ei threfnu gan UEFA yw Cynghrair Europa UEFA. Mae clybiau yn sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar sail eu perfformiadau yn eu cynghreiriau a chwpanau cenedlaethol.

Cynghrair Europa UEFA
Ffurfiwyd1971 (2009 yn ei ffurf bresennol)
ArdalUEFA (Ewrop)
Nifer o dimau48 (rownd y grwpiau)
+8 clwb yn ymuno yn dilyn grwpiau Cynghrair y Pencampwyr
160 (cyfanswm)
PresennolBaner Sbaen Sevilla (4ydd tro)
Clybiau mwyaf llwyddiannusBaner Sbaen Sevilla
(4 pencampwriaeth)
GwefanGwefan swyddogol

Fe'i hadnabyddwyd fel Cwpan UEFA tan 2009-10[1] pan ad-drefnwyd y gystadleuaeth. Mae UEFA yn ystyried Cwpan UEFA a Chynghrair Europa UEFA i fod yr un gystadleuaeth.[2].

Ym 1999 cafodd Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA ei diddymu gydag enillwyr cwpanau cymdeithasau Ewrop yn sicrhau eu lle yng Nghwpan UEFA o 2000-01 ymlaen[1] ac ers yr ailfrandio yn 2009, mae Tlws Intertoto UEFA hefyd wedi ei ddiddymu gyda'r gystadleuaeth yn cael ei huno gyda Chynghrair Europa.

Mae enillwyr Cynghrair Europa yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Super Cup UEFA ac ers 2014-15 mae'r enillwyr hefyd yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA ar gyfer y tymor canlynol.

Mae'r tlws wedi ei godi gan 27 o glybiau gwahanol gyda 12 o'r rhain yn ennill y gystadleuaeth ar fwy nag un achlysur. Sevilla yw'r clwb mwyaf llwyddiannus ar ôl ennill y gystadleuaeth ar bedair achlysur[3]

Hanes golygu

Cymerodd Gwpan UEFA le'r Inter-Cities Fairs Cup ym 1971 gyda Tottenham Hotspur yn codi'r tlws cyntaf un ar ôl trechu Wolverhampton Wanderers dros ddau gymal yn y rownd derfynol. Parhaodd y gystadleuaeth i gael ei chwarae dros ddwy gymal hyd nes 1997-98 pan benderfynwyd cynnal y rownd derfynol ar faes niwtral a llwyddodd Internazionale i drechu Lazio 3-0 ar faes Parc des Princes, Paris.

Enillwyr golygu

Clwb Enillwyr Ail Blynyddoedd buddugol Blynyddoedd ail
  Juventus 3 1 1977, 1990, 1993 1995
  Internazionale 3 1 1991, 1994, 1998 1997
  Lerpwl 3 0 1973, 1976, 2001
  Sevilla 3 0 2006, 2007, 2014
  Borussia Mönchengladbach 2 2 1975, 1979 1973, 1980
  Tottenham Hotspur 2 1 1972, 1984 1974
  Feyenoord 2 0 1974, 2002
  IFK Göteborg 2 0 1982, 1987
  Real Madrid 2 0 1985, 1986
  Parma 2 0 1995, 1999
  Porto 2 0 2003, 2011
  Atlético Madrid 2 0 2010, 2012
  Anderlecht 1 1 1983 1984
  PSV Eindhoven 1 0 1978
  Eintracht Frankfurt 1 0 1980
  Ipswich Town 1 0 1981
  Bayer Leverkusen 1 0 1988
  Napoli 1 0 1989
  Ajax 1 0 1992
  Bayern Munich 1 0 1996
  Schalke 04 1 0 1997
  Galatasaray 1 0 2000
  Valencia 1 0 2004
  CSKA Moscow 1 0 2005
  Zenit St. Petersburg 1 0 2008
  Shakhtar Donetsk 1 0 2009
  Chelsea 1 0 2013

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Uefa Cup given new name in revamp". 2008-09-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "New format provides fresh impetus". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Sevilla out on their own in all-time standings". Unknown parameter |published= ignored (help)