Erddig

plasty yn sir Wrecsam

Plasdy ac ystâd gerllaw Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Erddig. Mae yn awr yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Saif rhyw ddwy filltir i'r de o ganol tref Wrecsam.

Erddig
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1683 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
LleoliadMarchwiail Edit this on Wikidata
SirMarchwiail Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr88.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0272°N 3.0066°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethJohn Meller, Philip Yorke, Simon Yorke, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Philip Scott Yorke, teulu York Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Fe'i adeiladwyd yn 1684–1687 ar gyfer Joshua Edisbury, uchel siryf Sir Ddinbych, a'i gynllunio gan Thomas Webb. Fe'i gwerthwyd i John Meller yn 1718, ac ehangwyd yr adeilad ganddo ef. Ar ei farwolaeth ef yn ddi-blant yn 1733, etifeddwyd y plasdy gan ei nai Simon Yorke. Bu yn eiddo i deulu Yorke hyd 1973, pan roddwyd ef i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y mwyaf adnabyddus o'r teulu oedd Philip Yorke (1743–1804), awdur The Royal Tribes of Wales.

Mae ystâd Erddig yn cynnwys gerddi, coedwigoedd a pharcdir eang gyda sawl nodwedd bensaernïol.

Erddig dros y caeau
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato