Gertrude Atherton

Awdures Americanaidd oedd Franklin Horn Atherton (30 Hydref 185714 Mehefin 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur ffeithiol a sgriptiwr.

Gertrude Atherton
Ganwyd30 Hydref 1857, 14 Ionawr 1858 Edit this on Wikidata
San Francisco Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 1948 Edit this on Wikidata
San Francisco Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr, awdur ffeithiol, sgriptiwr, awdur Edit this on Wikidata
Gwobr/auLégion d'honneur Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn San Francisco ac yno hefyd y bu farw, o strôc.[1][2][3][4][5]

Lleolir llawer o'i nofelau yn y dalaith lle'i maged, sef Califfornia. Cafodd ei bestseller Black Oxen (1923) ei wneud yn ffilm ddistaw o'r un enw. Yn ogystal â nofelau, ysgrifennodd straeon byrion, traethodau, ac erthyglau ar gyfer cylchgronau a phapurau newydd ar faterion megis ffeministiaeth, gwleidyddiaeth a rhyfel. Roedd hi'n ferch benderfynol, yn annibynnol, ac weithiau'n ddadleuol, yn enwedig am ei daliadau gwrth-gomiwnyddol. [6][7]

Magwraeth golygu

Thomas Ludovich Horn oedd ei thad a Gertrude (Franklin) oedd ei mam. Ysgarodd y ddau pan oedd Gertrude yn ddwy oed. Fe'i magwyd gan thaid (ar ochr ei mam), sef Stephen Franklin, Presbyteriad pybyr a pherthynas i Benjamin Franklin.[8][9]

Mynnodd ei thaid ei bod yn darllen yn eang, hyd yn oed pan oedd yn ifanc iawn. Bu'n ddisgybl yn ysgol uwchradd St. Mary's Hall yn Benicia, California, ac am gyfnod byr yn Sayre School yn Lexington, Kentucky. Oherwydd ei bod yn tipyn o rebel, gwrthododd ei modryb, lle arhosai i'w chynnal rhagor, a bu'n rhaid iddi ddychwelyd i Kentuckey at ei thaid. Yno, cyfarfu â George H.B. Atherton, mab Faxon Atherton, a oedd mewn cariad a'i mam.[9] Ond o dipyn i beth, trodd sylw George o'r fam i'r ferch! Derbyniodd ei gynnig i briodi a phodd y ddau at ei mam-yng-nghyfraith, Dominga Atherton, a oedd yn berchennog ar Atherton Mansion yn San Francisco a'u stad "Fair Oaks". Ond yna, bu farw eu mab Geirge o difftheria ac yna bu farw ei gŵr. Trosglwyddodd ei mam-yng-nghyfraith yr arian a oedd am ei adael i'w mab iddi, ac edrychodd ar ôl ei merch Muriel gan ei magu.

Yr awdur golygu

 
Llun cynnar o Gertrude Franklin Horn Atherton

Cyhoeddiad cyntaf Atherton oedd The Randolphs of Redwood: A Romance, a gyhoeddodd fel cyfres yn The Argonaut ym Mawrth 1882 dan y ffugenw Asmodeus. Pan ddatgelodd i'w theulu mai hi oedd yr awdur, fe cafodd ei diarddel. Ym 1888, gadawodd i Efrog Newydd, gan adael Muriel gyda'i mam-gu. Teithiodd i Lundain, ac yn y pen draw dychwelodd i Galifornia. Cyhoeddwyd nofel gyntaf Atherton, What Dreams Mai Come, ym 1888 dan y ffugenw Frank Lin.

Yn 1889, aeth i Baris ar wahoddiad ei chwaer-yng-nghyfraith Alejandra Rathbone (priod Lawrence Lawrence Rathbone). Y flwyddyn honno, clywodd gan y cyhoeddwr Prydeinig G. Routledge and Sons y byddent yn cyhoeddi ei dau lyfr cyntaf. Ysgrifennodd William Sharp yn The Spectator gan ganmol ei gwaith llenyddol ac yn ddiweddarach byddai'n gwahodd Atherton i aros gydag ef a'i wraig, Elizabeth, yn South Hampstead.[10]

Yn Llundain, cafodd y cyfle drwy Jane Wilde i gwrdd â'i mab, Oscar Wilde. Cofnododd yn ei bywgraffiad Adventures of a Novelist (1932) ei bod gwedi esgus i osgoi'r cyfarfod oherwydd ei bod yn meddwl fod Wilde yn gorfforol atgas.

Dychwelodd i Galiffornia yn 1890 ar farwolaeth ei thad-cu Franklin a'i mam-yng-nghyfraith Dominga Atherton, ac ailddechreuodd ofalu am Muriel.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.

Llyfryddiaeth golygu

  • What Dreams Mai Come (1888), as Frank Lin
  • Hermia Suydam (1889)
  • Los Cerritos, a Romance of the Modern Times (1890)
  • A Questions of Time (1891)
  • The Doomswoman (1893)
  • Before the Gringo Came (1894), revised and enlarged as The Splendid Idle Forties: Stories of Old California (1902)
  • A Whirl Asunder (1895)
  • His Fortunate Grace (1897)
  • Patience Sparhawk and Her Times (1897)
  • American Wives and English Husbands (1898)
  • The Californians (1898)
  • The Valiant Runaways (1898)
  • A Daughter of the Vine (1899)
  • Senator North (1900)
  • The Aristocrats (1901)
  • The Conqueror, Being the True and Romantic Story of Alexander Hamilton (1902)
  • "The Splendid Idle Forties, Stories of Old California" (1902)
  • Heart of Hyacinth (1903)
  • Mrs. Pendleton's Four-in-Hand (1903)
  • Rulers of Kings (1904)
  • The Bell in the Fog, and Other Stories (1905)
  • The Travelling Thirds (1905)
  • Rezanov (1906)
  • Ancestors (1907)
  • The Gorgeous Isle (1908)
  • Tower of Ivory (1910)
  • Julia France and Her Times (1912)
  • Perch of the Devil (1914)
  • California, An Intimate History (1914), revised and enlarged in 1927 and 1971
  • Life in the War Zone (1916)
  • Mrs. Belfame (1916)
  • The Living Present (1917) – Book I: French Women in Wartime; Book II: Feminism in Peace and War
  • The White Morning: a Novel of the Power of the German Women in Wartime (1918)
  • The Avalanche: A Mystery Story (1919)
  • Transplanted (1919)
  • The Sisters-in-Law: A Novel of Our Times (1921)
  • Sleeping Fires (1922)
  • Black Oxen (1923)
  • The Crystal Cup (1925)
  • The Immortal Marriage (1927)
  • The Jealous Gods, A Processional Novel of the Fifth Century B.C. (Concerning One Alcibiades) (1928)
  • Dido: Queen of Hearts (1929)
  • The Sophisticates (1931)
  • Adventures of a Novelist (1932)
  • The story of an elephant named Fritz and Teofilo Barla an Italian cook (1934)
  • The Foghorn: Stories (1934)
  • California: An Intimate History (1936)
  • Golden Peacock (1936)
  • Rezánov and Doña Concha (1937)
  • Can Women Be Gentlemen? (1938)
  • The House of Lee (1940)
  • The Horn of Life (1942)
  • The Conqueror (1943)
  • Golden Gate Country (1945, American Folkways series)
  • My San Francisco (1946)

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127300337. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/c9psx2sw0gf1x25. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2008.
  2. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index1.html.
  3. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127300337. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127300337. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrude Atherton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Atherton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Franklin Atherton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://wfpp.cdrs.columbia.edu/pioneer/ccp-gertrude-atherton/. dyddiad cyrchiad: 6 Chwefror 2018.
  5. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127300337. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrude Atherton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Atherton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Franklin Atherton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man gwaith: https://wfpp.cdrs.columbia.edu/pioneer/ccp-gertrude-atherton/. dyddiad cyrchiad: 6 Chwefror 2018.
  7. Galwedigaeth: https://wfpp.cdrs.columbia.edu/pioneer/ccp-gertrude-atherton/. dyddiad cyrchiad: 6 Chwefror 2018. https://wfpp.cdrs.columbia.edu/pioneer/ccp-gertrude-atherton/. dyddiad cyrchiad: 6 Chwefror 2018. https://www.bksh.al/details/70317. dyddiad cyrchiad: 2 Ionawr 2023.
  8. Merriman, C.D. "Gertrude Franklin Horn Atherton". Biography. The Literature Network. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2011.
  9. 9.0 9.1 American women writers, 1900-1945 : a bio-bibliographical critical sourcebook. Champion, Laurie., Nelson, Emmanuel S. (Emmanuel Sampath), 1954-. Westport, Conn.: Greenwood Press. 2000. ISBN 9781429473248. OCLC 55002835.CS1 maint: others (link)
  10. McClure, Charlotte S. (1997). Nineteenth-Century American Western Writers. Detroit, Michigan: Gale. ISBN 978-0-7876-1682-3.