Mae Gwener Mal'ta yn un o sawl cerflun bychan palaeolithig o fenywod, a ddarganfuwyd yn Mal'ta, ar Afon Angara, ger Llyn Baikal yn Oblast Irkutsk, Siberia, Rwsia.

Darlun o un o'r cerfluniau o Wener Mal'ta

Disgrifiad golygu

Mae'r cerfluniau bychain hyn - sy'n perthyn i ddosbarth arbennig o gerfluniau cynhanesyddol a adnabyddir fel cerfluniau Gwener - yn dyddio'n ôl tua 23,000 mlynedd. Cawsant eu cerfio o ifori mamoth.

Cafwyd hyd i tua 30 o gerfluniau bychain o fenywod o sawl ffurf yn Mal’ta. Mae'r amrywiaeth eang o ffurfiau, ynghyd â realaeth y cerfluniau, a'r amrywiaeth y manylion cerfiedig yn awgrymu'n gryf bodolaeth celf gynnar, er yn gyntefig. Cyn eu darganfod yn Mal’ta, dim ond yn Ewrop roedd cerfluniau Gwener fel hyn wedi eu darganfod. Wedi'u cerfio o ysgithrau (tusks) ifori mamoth, mae'r delweddau hyn yn arddangos arddulliau symbolig, sydd gan amlaf yn cynnwys gorbwysleisio'n fwriadol rhai elfennau o'r corff benywaidd, fel rheol y bronnau a'r ffolennau. Credir eu bod yn ymwneud â ffrwythlondeb.

Cadwraeth golygu

Mae'r cerfluniau hyn yn cael eu harddangos yn barhaol yn Amgueddfa'r Hermitage yn ninas St Petersburg, Rwsia.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: