Gwilym Iwan Jones

Gweinyddwr trefedigaethol, anthropolegydd a ffotograffydd Cymreig oedd Gwilym Iwan Jones (3 Mai 190425 Ionawr 1995). Roedd yn arbenigwr ar gelfyddydd dwyrain Nigeria.

Gwilym Iwan Jones
Ganwyd3 Mai 1904 Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 1995 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethanthropolegydd, ffotograffydd Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Nhref y Penrhyn yn Ne Affrica. Treuliodd ei blentyndod cynnar yn Tsile cyn i'r teulu dychwelyd i Loegr ym 1915. Mynychodd ysgol St John's yn Leatherhead, Surrey. Enillodd ysgoloriaeth i astudio hanes yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ym 1923. Chwaraeodd fel asgellwr i Glwb Rygbi Cymry Llundain.

Ymunodd â'r gwasanaeth trefedigaethol ym 1926, a gwasnaethodd yn swyddi Is-swyddog Ardal yn Nwyrain Nigeria a Swyddog Ardal yn Bende ac ardaloedd cyfagos Owerri. Magodd ddiddordeb yn niwylliant brodorol y wlad, ac astudiodd gwrs ffotograffiaeth er mwyn iddo dynnu lluniau o ddawnsiau a mygydau traddodiadol yr Igboaid a'r Ibibio.

Gadawodd ei yrfa drefedigaethol ym 1946, a daeth yn ddarlithydd yn adran anthropoleg gymdeithasol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Daeth yn gymrawd yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt, ym 1962. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar gymdeithas a diwylliant Nigeria, gan gynnwys The Ibo and Ibibio Peoples of Eastern Nigeria (gyda Daryll Forde; 1950), Trading States of the Oil Rivers (1963), a The Art of Eastern Nigeria (1984).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Alicia Fentiman. Obituary: G. I. Jones Archifwyd 2020-02-19 yn y Peiriant Wayback., The Independent (27 Chwefror 1995). Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.