Awdur Saesneg oedd Joan Delano Aiken MBE (4 Medi 1924 - 4 Ionawr 2004) a oedd yn arbenigo mewn ffuglen oruwchnaturiol a nofelau hanes amgen i blant . Ym 1999 dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i lenyddiaeth plant.[1] Enillodd Wobr Ffuglen Plant y Guardian am The Whispering Mountain, a gyhoeddwyd gan Jonathan Cape ym 1968, gwobr a ddyfarnwyd gan banel o awduron plant o Brydain,[2] Cafodd ei chymeradwyo am Fedal Carnegie gan Gymdeithas y Llyfrgelloedd, yn gydnabyddiaeth am lyfr plant gorau'r flwyddyn gan awdur o Brydain.[3] [is-alffa 1] Enillodd Wobr Edgar Allan Poe (1972) am Night Fall .

Joan Aiken
GanwydJoan Delano Aiken Edit this on Wikidata
4 Medi 1924 Edit this on Wikidata
Rye Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 2004 Edit this on Wikidata
The Hermitage Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur plant, awdur ffuglen wyddonol, golygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Argosy
  • J. Walter Thompson
  • United Nations Information Centres Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Wolves of Willoughby Chase Edit this on Wikidata
TadConrad Aiken Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Gwobr Edgar Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.joanaiken.com/ Edit this on Wikidata

Ganed Aiken yn Mermaid Street yn Rye, Sussex, ar y 4 Medi 1924.[4] Conrad Aiken (1889-1973), y bardd o America ac enillydd Gwobr Pulitzer oedd ei thad. Ei brawd hŷn oedd yr awdur a'r fferyllydd ymchwil [5] John Aiken (1913-1990), a'i chwaer hŷn oedd yr awdur Jane Aiken Hodge (1917-2009). Derbyniodd eu mam, Jessie MacDonald, a anwyd yng Nghanada (1889-1970), radd Meistr o Goleg Radcliffe, Caergrawnt, Massachusetts . Diddymwyd priodas Jessie a Conrad ym 1929, a phriododd Jessie â'r awdur o Loegr Martin Armstrong ym 1930. Aeth Conrad Aiken ymlaen i briodi ddwywaith eto. Ynghyd â’i brawd John a’i chwaer Jane, ysgrifennodd Joan Aiken Conrad Aiken Remembered (1989).

Tan i Aiken fod yn ddeuddeg oed, fe'i haddysgwyd gartref gan ei mam ac yna o 1936 i 1940 mynychodd Ysgol Wychwood, ysgol i ferched yn Rhydychen. Ni fynychodd brifysgol. Bu'n ysgrifennu straeon o oedran ifanc a gorffennodd ei nofel gyntaf pan oedd hi'n un ar bymtheg mlwydd oed. Cyhoeddwyd ei stori fer gyntaf i oedolion pan oedd hi'n ddwy ar bymtheg.  Ym 1941 darlledwyd ei stori gyntaf ar gyfer plant ar Awr Plant y BBC .[6]

Gweithiodd Aiken i Ganolfan Wybodaeth y Cenhedloedd Unedig (UNIC) yn Llundain rhwng 1943 a 1949. Ym mis Medi 1945 priododd Ronald George Brown,[4] newyddiadurwr a oedd hefyd yn gweithio yn UNIC. Roedd ganddyn nhw ddau o blant cyn iddo farw ym 1955.

Ar ôl marwolaeth ei gŵr, ymunodd Aiken â’r cylchgrawn Argosy, lle bu’n gweithio mewn sawl swydd golygyddol. Yno, meddai yn ddiweddarach, y dysgodd ei chrefft fel ysgrifennwr. Roedd y cylchgrawn yn un o lawer lle cyhoeddodd straeon byrion rhwng 1955 a 1960. Yn ystod yr amser hwn hefyd cyhoeddodd ei dau gasgliad cyntaf o straeon plant a dechreuodd weithio ar nofel i blant, dan y teitl Bonnie Green i ddechrau, ond a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ym 1962 fel The Wolves of Willoughby Chase . Erbyn hynny roedd hi'n ysgrifennu'n llawn amser o'i chartref, gan gynhyrchu dau neu dri llyfr y flwyddyn am weddill ei hoes. Llyfrau plant a chyffro yn bennaf, ynghyd â llawer o erthyglau, cyflwyniadau a sgyrsiau ar lenyddiaeth plant ac ar waith Jane Austen .

Ym 1976, priododd Aiken a'r athro a'r arlunydd tirlun o Efrog Newydd, Julius Goldstein .[4] Fe wnaethant rannu eu hamser rhwng ei chartref, yr Hermitage yn Petworth, Sussex, ac Efrog Newydd. Bu ef farw yn 2001.

Ym mis Medi 1999, gwnaed Aiken yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig .[4]

Bu farw Aiken yn ei chartref yn 79 oed yn 2004.[4] Fe'i goroeswyd hi gan ei dau blentyn.

Ysgrifau golygu

Ysgrifennodd Joan Aiken fwy na chant o lyfrau, gan gynnwys mwy na dwsin o gasgliadau o straeon ffantasi, dramâu a cherddi, a nofelau modern a hanesyddol i oedolion a phlant. Gydol ei hoes, roedd wrth ei bodd gyda straeon ysbryd, yn enwedig rhai MR James, Fitz James O'Brien a Nugent Barker . Mae rhai o’i llyfrau gan gynnwys The Windscreen Weepers (straeon, 1969), The Shadow Guests (nofel, 1980), A Whisper in the Night (straeon, 1982), ac A Creepy Company (straeon, 1993, gyda chynnwys amrywiol yn ei rifynnau o'r UD a'r DU), yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau iasoer neu ddigwyddiadau gouwchnaturiol. Gosododd ei nofel oruwchnaturiol i oedolion, The Haunting of Lamb House, yn Lamb House yn Rye (sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ). Mae'r stori ysbryd hon yn adrodd hanes dychrynllyd yr honnir i ddau o gyn-breswylwyr y tŷ, Henry James ac EF Benson, ei brofi. Roedd y ddau ohonynt hefyd yn ysgrifennu straeon ysbryd.

Mae llawer o lyfrau mwyaf poblogaidd Aiken, gan gynnwys y Wolves Chronicles [7] (a'u haedwaenir hefyd fel The Wolves of Willoughby Chase neu gyfres James III), wedi'u gosod mewn Prydain amgen lle na chafodd James II ei ddiorseddu yn y Chwyldro Gogoneddus a lle mae cefnogwyr Tŷ Hanover yn gwrthryfela yn erbyn y frenhiniaeth. Mae'r llyfrau hyn hefyd yn amrywio daearyddiaeth Llundain, gan ychwanegu ymlith nodweddion eraill, yr Ardal Gamlas Mae bleiddiaid yn meddiannu'r wlad wedi iddynt ddod o Ewrop trwy Dwnel y Sianel sydd newydd gael ei adeiladu. Mae'r cymeriadau'n ymddangos mewn sawl un o'r nofelau gan ddechrau gyda Bonnie Green ac yna ei ffrind Simon, ffrind craff Simon Cockney Dido Twite (arwres y rhan fwyaf o'r llyfrau), Is, hanner chwaer Dido, ac Owen Hughes (mab i Gapten Hughes, ffrind Dido o'r Llynges Frenhinol).

Cyfeiriadau golygu

  1. Tucker, Nicholas (10 January 2004). "Joan Aiken: Popular and Prolific Children's Writer" Archifwyd 2009-03-10 yn y Peiriant Wayback.. The Independent.
  2. "Guardian children's fiction prize relaunched: Entry details and list of past winners". theguardian 12 March 2001. Retrieved 2012-08-01.
  3. "Carnegie Medal Award" Archifwyd 2019-03-27 yn y Peiriant Wayback.. 2007(?). Curriculum Lab. Elihu Burritt Library. Central Connecticut State University (CCSU). Retrieved 2012-08-10.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Brown, Susan, Patricia Clements, and Isobel Grundy, eds. Results of Chronologies query on Aiken, Joan within tag Name within all event types, with most comprehensive selectivity, for 0612--BC to 2018-11-28AD, long form results within Orlando: Women's Writing in the British Isles from the Beginnings to the Present. Cambridge: Cambridge University Press Online, 2006. http://orlando.cambridge.org/. 28 November 2018.
  5. Science Fiction and Fantasy Literature, vol. 2, R. Reginald, 1979, pg 791
  6. Eccleshare, Julia (2002). Beatrix Potter to Harry Potter, portraits of children's writers. National Portrait Gallery. ISBN 1-85514-342-9
  7. Wolves Chronicles series listing at the Internet Speculative Fiction Database (ISFDB). Retrieved 2012-08-01. Select a title to see its linked publication history and general information. Select a particular edition (title) for more data at that level, such as a front cover image or linked contents.