Un o dair rhan y Beibl Hebraeg yw'r Ketuvim (Hebraeg am "ysgrifeniadau"). Casgliad o hanesion, barddoniaeth, gwirebau, llên ddoethineb, datguddiadau, a litwrgi ydyw.

Gellir rhannu ei un ar ddeg o lyfrau yn bedair adran: y llyfrau barddonol (Llyfr y Salmau, Llyfr y Diarhebion, a Llyfr Job), y Megillot, sef "sgroliau" (Cân y Caniadau, Llyfr Ruth, Llyfr Galarnad, Llyfr y Pregethwr, a Llyfr Esther), proffwydoliaeth (Llyfr Daniel), ac hanes (Llyfr Esra a Llyfr y Croniclau).[1] Gellir hefyd ddosbarthu'r llyfrau yn weithiau hanesyddol (Croniclau ac Esra), barddoniaeth (Salmau, Galarnad, a Chân), a straeon byrion (Ruth ac Esther)—sydd i gyd yn cyfeirio'n ôl at y Tora a'r Nevi'im—yn ogystal â'r llên ddoethineb (Diarhebion, Job, a Phregethwr) a'r broffwydoliaeth neu ddatguddiad (Daniel).[2]

Yn ôl y traddodiad Iddewig, priodolir y Salmau i'r Brenin Dafydd, a'r Gân, Diarhebion a Phregethwr i'r Brenin Solomon. Darllenir pump o lyfrau'r Ketuvim, y Megillot, gan yr Iddewon yn litwrgi adeg eu gwyliau crefyddol: y Gân yn y Pasg Iddewig, Ruth yng Ngŵyl yr Wythnosau (Shavuot), Galarnad yn Tisha B'Av, Pregethwr yn Sukkot, ac Esther yng Ngŵyl y Gyfeddach (Pwrim).[2]

Ysgrifennwyd llyfrau'r Ketuvim dros gyfnod hir, o'r 6g CC i'r 2g CC. Ni chawsant i gyd eu derbyn yng nghanon y Beibl Hebraeg nes yr 2g OC.[1] Mae Llyfr Esra yn cynnwys Llyfr Nehemeia, a ystyrir yn llyfr ar wahân yn y Beibl Cristnogol, sydd hefyd yn rhestru'r Croniclau yn ddau lyfr (1 a 2).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ketuvim. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Medi 2018.
  2. 2.0 2.1 Sara E. Karesh a Mitchell M. Hurvitz, Encyclopedia of Judaism (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 270–71.