Genre lenyddol ddidactig a flodeuai yn yr Hen Ddwyrain Agos yw llên ddoethineb. Yn hanesyddol, defnyddiwyd y term mewn cyd-destunau Iddewig a Christnogol i ddynodi rhai o lyfrau'r Beibl sydd yn ymwneud â hokmâ (doethineb) a sydd yn rhannu themâu tebyg. Mabwysiadwyd y term gan Eifftolegwyr ac Asyriolegwyr i ddisgrifio testunau hynafol eraill.[1]

Llenyddiaeth Iddewig a Christnogol

golygu

Yn y Beibl Hebraeg, neu'r Hen Destament yn y Beibl Cristnogol, mae tri llyfr a ystyrir yn llên ddoethineb: Llyfr y Diarhebion, Llyfr Job, a Llyfr y Pregethwr. Yn ôl trefn y Ketuvim, llyfrau barddonol ydy Diarhebion a Job ac un o'r Megillot ("sgroliau") yw Pregethwr. Yn ôl y traddodiad Iddewig, priodolir Diarhebion a Phregethwr i'r Brenin Solomon. Ystyrir rhai o'r Salmau, a briodolir hefyd i Solomon, yn llên ddoethineb.

Ymhlith apocryffa'r Hen Destament, a gynhwysir yng nghyfieithiad y Deg a Thrigain, mae Doethineb Solomon a Llyfr Eclesiasticus (neu Ddoethineb Iesu fab Sirach), dwy esiampl arall o lên ddoethineb Feiblaidd. Ystyrir y rheiny yn destunau canonaidd gan yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, ond nid gan y Protestaniaid. Mae sawl enghraifft o lên ddoethineb yn y ffugysgrifeniadau, gan gynnwys Ahiqar, Trydydd a Phedwerydd Llyfrau'r Macabeaid, Gwirebau'r Ffug-Phocylides (gwirebau Iddewig a briodolir i'r bardd Ïonaidd Phocylides, c. 50 CC–100 OC), a Brawddegau Menander o Syria.

Cynhwysir llên ddoethineb hefyd yn yr Haggada, traddodiad traethiadol y Talmwd, a chafwyd hyd i ragor o destunau o'r fath ymhlith Sgroliau'r Môr Marw.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Roland E. Murphy, The Wisdom Literature (Grand Rapids, Michigan: William B, Eerdmans, 1981), t. 3.