Lily Allen

actores a aned yn 1985

Mae Lily Rose Beatrice Allen (ganed 2 Mai 1985) yn gantores-cyfansoddwraig pop Seisnig. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chaneuon "Smile", "LDN", "Littlest Things", "Alfie", ei fersiwn hi o "Oh My God", "The Fear" a'i harddull "Mockney". Merch yr actor, digrifwr a'r cerddor Keith Allen a'r cynhyrchydd ffilm Alison Owen ydyw. O'r 12fed o Chwefror 2008, cyflwynodd Allen ei sioe ei hun ar BBC Three o'r enw Lily Allen and Friends.

Lily Allen
GanwydLily Rose Beatrice Allen Edit this on Wikidata
2 Mai 1985 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
Man preswylCotswolds, Notting Hill, Islington Edit this on Wikidata
Label recordioLondon Records, Capitol Records, Regal Recordings, Warner Bros. Records, Parlophone Records, EMI Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Bedales
  • Hill House International Junior School
  • Millfield
  • Millfield Preparatory School
  • Mander Portman Woodward Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, actor, actor ffilm, cyflwynydd teledu, cyflwynydd, artist recordio Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, grime, synthpop, indie pop, Ska Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
TadKeith Allen Edit this on Wikidata
MamAlison Owen Edit this on Wikidata
PriodDavid Harbour, Sam Cooper Edit this on Wikidata
Gwobr/auIvor Novello Awards, Ivor Novello Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lilyallenmusic.com/ Edit this on Wikidata

Ei bywyd cynnar golygu

Roedd Allen wedi cael ei geni yn Hammersmith, Gorllewin Llundain, yn ferch i'r digrifwr o Cymru a Actor Keith Allen ar cyfarwyddwr ffilm Alison Owen. Symudodd ei theulu i Ogledd Llundain i fwrdeistref Islington. Mae ganddi chwaer hŷn, Sarah; a brawd iau, Alfie Owen-Allen (testun ei chân 'Alfie'); a chwaer iau Rebecca. Mae ganddi nifer o hanner-brodyr a chwiorydd. Am gyfnod, bu Allen yn byw gyda'r digrifwr Harry Enfield tra'r oedd ei mam ac yntai'n canlyn. Mae hefyd yn ferch-bedydd i leisydd y Wild Colonials, Angela McCluskey. Cyfeirir at y canwr a gitarydd Joe Strummer o fand The Clash fel tad-bedydd iddi; er nad yw hyn yn llythrennol wir, roedd Strummer yn glos i Allen. Dywed Allen fod ganddi atgofion melys o'r wythnos a hanner y treuliodd y ddau ohonynt gyda'i gilydd yng Ngŵyl Glastonbury.

Gwobrau ac enwebiadau golygu

Blwyddyn Gwobr Categori Canlyniad
2006 Q Awards Act Newydd Gorau Enwebwyd
Digital Music Awards Artist Pop Gorau Enillodd
2007 Gwobrau'r BRITs Artist Benywaidd Unigol Gorau Enwebwyd
Albwm Prydeinig Mastercard (Alright, Still) Enwebwyd
Act Newydd Gorau Enwebwyd
Gwobrau Fideo Cerddorol MTV Artist Newydd Gorau Enwebwyd
Gwobrau NME Dillad Gwaethaf Enillodd
2008 Gwobrau'r Grammy Albwm Cerddoriaeth Gwahanol Gorau (Alright, Still) Enwebwyd
Gwobrau Ffasiwn y Stryd Fawr Seren wedi gwisgo orau Enwebwyd
Gwobrau BMI ("Smile") Enillodd
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.