Llenor ac ymgyrchydd hawliau dynol Tsieineaidd oedd Liu Xiaobo (Tsieineeg: 刘晓波; pinyin: Liú Xiǎobō; 28 Rhagfyr 195513 Gorffennaf 2017).[1][2] Roedd yn feirniad o lywodraeth Plaid Gomiwnyddol Tsieina, yn un o garcharorion gwleidyddol amlyca'r byd, ac yn enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 2010.[3] Cafodd ei garcharu am y tro cyntaf ym 1989, yn sgil protestiadau Sgwâr Tiananmen.[4] Enillodd Wobr Heddwch Nobel tra'r oedd ar ei bedwerydd cyfnod yn y carchar yn Jinzhou, Liaoning.[5][6][7] Cafodd ei ryddhau ar barôl meddygol ar 26 Mehefin 2017 yn sgil ei ddiagnosis angheuol o ganser yr afu,[8] a bu farw dwy wythnos a hanner yn ddiweddarach yn 61 oed.

Liu Xiaobo
Ganwyd28 Rhagfyr 1955 Edit this on Wikidata
Changchun Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 2017 Edit this on Wikidata
First Hospital of China Medical University Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Huang Yaomian
  • Tong Qingbing Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, amddiffynnwr hawliau dynol, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodLiu Xia Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Hermann Kesten, Gwobr Homo Homini, Gwobr Un Dynoliaeth, Medal Giuseppe Motta, PEN Barbara Goldsmith Freedom to Write Award, Fondation de France Prize for press freedom defender, Human Rights Press Award Edit this on Wikidata

Fe wasanaethodd yn llywydd Canolfan Annibynnol PEN yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina o 2003 i 2007. Sefydliad rhyngwladol ar gyfer llenorion yw PEN sydd yn hyrwyddo rhyddid mynegiant, rhyddid y wasg ac hawliau dynol. Roedd Liu hefyd yn llywydd y cylchgrawn Minzhu Zhongguo ("Tsieina Ddemocrataidd") ers canol y 1990au. Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa ar 8 Rhagfyr 2008 oherwydd ei ran yn ysgrifennu'r maniffesto Siarter 08 o blaid ddiwygiadau gwleidyddol a chael gwared â'r system un-blaid yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Cafodd ei arestio'n ffurfiol ar 23 Mehefin 2009 ar gyhuddiad o "annos dymchweliad grym y wladwriaeth".[9][10] Cafodd ei roi ar brawf ar 23 Rhagfyr 2009,[11] a deuddydd yn ddiweddarach ei ddedfrydu i garchar am 11 mlynedd a'i ddifreinio o'i hawliau gwleidyddol am ddwy flynedd.[12]

Seremoni wobrwyo Gwobr Heddwch Nobel 2010. Gadawyd cadair yn wag i nodi absenoldeb Liu Xiaobo.[13]

Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo yn 2010 am "ei frwydr hir, ddi-drais dros hawliau dynol sylfaenol yn Tsieina".[14][15][16][17] Liu oedd y Tsieinead cyntaf i ennill Gwobr Nobel tra'n byw yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina.[18] Liu yw'r trydydd unigolyn i ennill Gwobr Heddwch Nobel tra'r oedd yn y carchar, ar ôl Carl von Ossietzky (1935) ac Aung San Suu Kyi (1991).[19]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Verdict Against Liu Xiaobo". International PEN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-08. Cyrchwyd 11 Ionawr 2012.
  2. (Saesneg) "Liu Xiaobo: Prominent China dissident dies". BBC. 13 Gorffennaf 2017.
  3. (Saesneg) Liu Xiaobo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2017.
  4. Enillydd Gwobr Heddwch Nobel wedi marw, Golwg360 (13 Gorffennaf 2017). Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2017.
  5. (Saesneg) Frances Romero, Top 10 Political Prisoners Archifwyd 2010-10-11 yn y Peiriant Wayback., Time, 15 Tachwedd 2010.
  6. (Saesneg) Mark McDonald, An inside look at China's most famous political prisoner, The New York Times, 23 Gorffennaf 2012.
  7. (Saesneg) Congressional-Executive Commission on China, Political Prisoner Database:Liu Xiaobo Archifwyd 16 October 2012[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback..
  8. (Saesneg) "Liu Xiaobo: Jailed Chinese dissident has terminal cancer". BBC News. 26 Mehefin 2017.
  9. (Saesneg) Benjamin Kang Lim, China's top dissident arrested for subversion, Reuters, 24 Mehefin 2009.
  10. (Tsieinëeg) "刘晓波因涉嫌煽动颠覆国家政权罪被依法逮捕 Archifwyd 2009-06-30 yn y Peiriant Wayback." (Liu Xiaobo Formally Arrested on 'Suspicion of Inciting Subversion of State Power' Charges), China Review News, 24 Mehefin 2009.
  11. (Tsieinëeg) Canghai [沧海], "刘晓波案闪电移送法院 律师两次前往未能会见[dolen marw]" [Liu Xiaobo's Case Quickly Escalated to the Court; Lawyers Twice Try to Meet with Liu to No Avail], Canyu [参与], 11 Rhagfyr 2009.
  12. (Saesneg) Beijing No. 1 Intermediate Court, Criminal Verdict no. (2009) yi zhong xing chu zi 3901, cyfieithiad Saesneg answyddogol gan Human Rights in China, "International Community Speaks Out on Liu Xiaobo Verdict Archifwyd 2012-12-04 yn Archive.is," 30 Rhagfyr 2009.
  13. (Saesneg) Peter Walker. Nobel peace prize placed on empty chair in honour of Liu Xiaobo, The Guardian (10 Rhagfyr 2010). Adalwyd ar 2 Medi 2017.
  14. (Saesneg) Dwyer Arce (10 Rhagfyr 2010). "China dissident Liu Xiaobo awarded Nobel Peace Prize in absentia". JURIST – Paper Chase.
  15. (Saesneg) The Nobel Peace Prize 2010 – Prize Announcement, Gwobr Nobel, 8 Hydref 2010, http://nobelprize.org/nobel_prizes/peace/laureates/2010/announcement.html
  16. (Tsieinëeg) "劉曉波獲諾貝爾和平獎 (Liu Xiaobo won the Nobel Peace Prize)", RTHK, 8 Hydref 2010, http://www.rthk.org.hk/rthk/news/expressnews/20101008/news_20101008_55_703618.htm, adalwyd 2017-07-13
  17. (Saesneg) McKinnon, Mark. "Liu Xiaobo could win the Nobel Peace Prize, and he’d be the last to know". The Globe and Mail. 7 Hydref 2010. 'Ms. Liu said her husband had been told by his lawyer during a recent visit that he had been nominated for the Nobel Peace Prize, but he would be shocked if he won, she said. "I think he would definitely find it hard to believe. He never thought of being nominated, he never mentioned any awards. For so many years, he has been calling for people to back the Tiananmen Mothers (a support group formed by parents of students killed in the 1989 demonstrations).."'
  18. (Saesneg) Lovell, Julia (9 October 2010). "Beijing values the Nobels. That's why this hurts". The Independent. UK: Independent Print Limited. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-10. Cyrchwyd 9 Hydref 2010.
  19. (Saesneg) Wachter, Paul (18 Tachwedd 2010). "Liu Xiaobo wasn't the First Nobel Laureate Barred From Accepting His Prize". AOL News