Saif Ogof Coygan (Cyfeiirnod OS: SN28480913) ger Talacharn, Sir Gaerfyrddin. Carreg galch yw ei gwneuthuriad ac ynddi fe ddarganfuwyd olion dyn Neanderthal yn dyddio nôl hyd at 64,000 o flynyddoedd oed. Darganfuwyd tair bwyell bout coupè o'r cyfnod hwn, sef Hen Oes y Cerrig. Credir fod y dyn Neanderthal wedi cartrefu yn yr ogof yma tan tua 25,000 o flynyddoedd yn ôl. Bu'n lloches i'r udfil (neu'r heiena) am flynyddoedd wedi hynny.

Ogof Coygan
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.75°N 4.49°W Edit this on Wikidata
Map

Cafwyd hyd i olion nifer o anifeiliaid hefyd gan gynnwys: y rhinoseros gwlanog y mamoth gwlanog, y ceffyl a'r beison - bron i gyd yn dyddio nôl i'r Oes yr Iâ diweddaraf.[1] Gellir gweld rhai o'r ffosiliau hyn yn Amgueddfa Sirol Caerfyrddin[2]. Bu cryn archwilio archaeolegol yma, gyda'r prosiect diwethaf yn yr 1960au cyn i'r lle gael ei ddymchwel gan chwarel gyfagos.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2009-03-12.
  2. "Lluniau ar y we o rai o'r ffosiliau y gellir eu gweld yn Amgueddfa Sirol Caerfyrddin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-09. Cyrchwyd 2009-03-12.