Ogof Bontnewydd

ogof baleolithig ger Llanelwy
(Ailgyfeiriad o Ogof Pontnewydd)

Ogof yng nghymuned Cefn Meiriadog yn nyffryn Elwy yn Sir Ddinbych yw Ogof Bontnewydd (Ogof Pontnewydd, neu Bont Newydd) (Cyfeirnod OS: SJ01527102). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear Cymru gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Mae o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennog Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion. Mae Ogof Bontnewydd ac Ogof Cefn (sydd tua 300 metr i'r gorllewin, wedi'u cofrestru'n Henebion.[1] Tua 7 milltir i'r de-ddwyrain, yn Nhremeirchion mae Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno.

Ogof Bontnewydd
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaNeanderthal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2271°N 3.4763°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad yr ogof ar draws Afon Elwy (ger y creigiau yng nghanol y llun).

Carreg galchfaen yw'r ogof ac nid ydyw ar agor i'r cyhoedd, fel arfer.[2] Yn wir, dim ond un man arall drwy wledydd Prydain sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex).[3][4] Mae'n perthyn i Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig).

Y darganfyddiadau golygu

Bu Stephen Aldhouse-Green o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gyfrifol am gloddio yma rhwng 1978 a 1995. Ymysg y darganfyddiadau yn yr ogof yr oedd dannedd a rhan o ên Neanderthals cynnar. Cafwyd hyd i 19 dant yn perthyn i blant ieuanc ac oedolion: un bachgen 8 a hanner oed, un ferch 9 oed bachgen 11 oed, bachgen arall 11-16 oed ac oedolyn. Gellir dehongli'r gweddillion mewn modd wahanol ac fel uchafswm mae'n bosibl fod y niferoedd cymaint â naw plentyn a saith oedolyn. Credir iddynt fyw rywbryd rhwng 230,000 a 185,000 o flynyddoedd yn ôl. Y dechneg a ddefnyddiwyd i ddyddio oedran y gwrthrychau oedd y gyfres dyddio carbon drwy iwraniwm a Thermoluminescence (TL) ar y llawr stalagmitig.

Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt, 1,282 o arteffactau carreg a 4,822 asgwrn. Daeth yr esgyrn hyn o lewod, rhinoseros, ceirw, eirth a llewpad; mae'r esgyrn llewpad yn hynod brin a dim ond mewn un man arall sef Ogof Bleadon yng Ngwlad yr Haf mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain.[5] Darganfyddiad arall yma oedd penglog arth oedd yn dyddio i gyfnod diweddarach, tua 28,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ffotograffau a dynnwyd yn 2014 golygu

Y Neanderthaliaid golygu

Roedd y Neanderthaliaid yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol a chredir i'r gangen ddod i ben oddeutu 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Nid esblygodd yr hil ddynol o'r Neanderthaliaid ond yr un oedd eu cyndeidiau hwy â rhywogaeth yr hil ddynol. Roedd yr oedolyn Neanderthalaidd yn gymharol fyr a thew a genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw. Gwyddom mai perthyn i'r Neanderthal mae'r dannedd gan fod pob un nodwedd arbennig sef tawrodontiaeth: dannedd ac iddyn ofod neu geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai na'r arfer. Mae hyn yn nodweddiadol o ddannedd y Neanderthal.[6]

Llyfryddiaeth golygu

  • Green, S. a E. Walker (1991) Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales (Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru)
  • Pontnewydd Cave: a lower Palaeolithic hominid site in Wales: the first report gan H. S. Green. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984).

Cyfeiriadau golygu

  1. [file:///C:/dros%20dro/SSSI_0147_Citation_EN001.pdf Cyfoeth Naturiol Cymru;] adalwyd 3 Hydref 2014
  2. Gwefan Coflein; Archifwyd 2012-08-19 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 21 Mehefin 2014
  3. The Archaeology of Clwyd, Cyngor Sir Clwyd 1991 tudalen 32
  4. Hanes Cymru gan John Davies, Cyhoeddwr: Penguin, 1990, ISBN 0-14-012570-1; tudalen 3
  5. Caves of North Wales; Archifwyd 2015-09-28 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Mehefin 2014
  6. "Archaeoleg Heddiw; Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd; adalwyd 21 Mehefin 2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-08-12. Cyrchwyd 2004-08-12.