Ynys Bŷr
Ynys fechan yn y môr ar ymyl Bae Caerfyrddin i'r de o Ddinbych y Pysgod yn Sir Benfro yw Ynys Bŷr (Saesneg: Caldey Island o'r Hen Norseg Keld-Eye 'Ynys Oer'). Mae'n cael ei henwi ar ôl y mynach cynnar Pŷr (digwydd ei enw yn ail ran enw tref Maenorbŷr, ar y tir mawr cyferbyn â'r ynys, yn ogystal). Mae'r ynys tua tair milltir o hyd, ac o hinsawdd fwyn gyda'r awel gynnes yn dod i mewn o'r Iwerydd.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 40 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Sir | Dinbych-y-pysgod |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2.14 km² |
Gerllaw | Môr Hafren |
Cyfesurynnau | 51.6372°N 4.6856°W |
Hyd | 2.4 cilometr |
Hanes
golyguMae'r ynys wedi bod yn lle i fyw ers canrifoedd. Mae archaeolegwyr wedi darganfod olion pobl oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig yn Ogof Nana ar yr ynys.
Mae'n debyg ei bod fwyaf adnabyddus am ei mynachlog. Adeiladwyd y gyntaf gan Sant Dyfrig yn y chweched ganrif. Clas Cymreig oedd y sefydliad hwnnw. Yn ôl un traddodiad, claddwyd Sant Cathen, sefydlydd Llangathen, yno. Yn amser y Normaniaid adeiladwyd priordy ar safle'r hen fynachlog ac mae rhan o'r hen adeilad yno o hyd. Roedd y Benedictiaid yno o 1136 tan i Harri VIII o Loegr ddiddymu'r mynachlogydd yn 1536. Sefydlodd grŵp Benedictiaid Anglicanaidd fynachlog ar yr ynys yn 1906, a derbyniwyd hwy i'r Eglwys Gatholig yn 1913. Oherwydd trafferthion ariannol, gwerthwyd yr ynys i’r Sistersiaid, a gyrhaeddodd yn 1929 ac sydd yno hyd heddiw.[1].
Mewn capel heb fod ymhell o'r priordy mae carreg gyda ysgrifen Ogam ac ysgrifen Ladin arni. Mae'r ogam yn darllen - 'Dyma (golofn) Moel Dolbrochion mab .......', a'r Lladin: 'Rwyf i wedi ei ddarpar â chroes. Gofynnaf i bawb a gerddo y ffordd hon weddïo dros enaid Cadwgan.'
Mynediad
golyguMae llongau yn hwylio drosodd i'r ynys o Ddinbych y Pysgod yn rheolaidd yn nhymor yr haf.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ “Caldey Abbey”, adalwyd 11 Mawrth 2016
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol yr ynys