Hen Oes y Cerrig yng Nghymru

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Mae cyfnod Oes yr Hen Gerrig yng Nghymru yn cynnwys hanes bodolaeth pobl yn y tir a elwir Cymru heddiw o'r cyfnod boreuaf hyd at tua 9000 CC. Enw arall ar Hen Oes y Cerrig yw'r Paleolithig. Ni wyddom i sicrwydd os bu pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o Oesoedd Iâ a gafwyd yn Ewrop gan fod y rhew wedi gorchuddio'r tir a dinistrio tystiolaeth bosibl ac eithrio yn achos rhimyn gul o dir ar arfordir y de. Ond mae'n bur bosibl fod ambell grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar a 200,000-100,000 CP.

Rhennir Hen Oes y Cerrig yn dair rhan ac mae'n rhychwantu cyfnod hir o amser 227,000 - 11.700 CP:

Yn Ogof Pontnewydd yn nyffryn Afon Elwy yn Sir Ddinbych cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o Ddyn Neanderthal oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mamoth

Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol o'r ogofâu a breswylid gan bobl Paleolithig. Daw'r darganfyddiadu cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu calchfaen yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer callestr o'r cyfnod hwnnw gydag offer cyffelyb sy'n perthyn i ddiwylliant Aurignac (a elwir ar ôl ogofâu ger Aurignac, de Ffrainc).

Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Paviland yn 1823 yn dyddio o tua 16,500 CC. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o helwyr yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn Greswelaidd ac a geir yn gyffredinol yn ne Prydain. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y mamothiaid diflanedig, eirth a cheirw anferth tebyg i'r elc yng ngogledd America. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibyniadwy am baentio ar furiau ogofâu.

Argraffiad o ben Neadnderthal, gan arlunydd.

Safleoedd Paleolithig eraill golygu

Dolenni allanol golygu


Cynhanes Cymru
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn
  1. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru