Mewn geometreg Ewclidaidd, ystyrir y paralelogram yn bedrochr syml, gyda dau bâr o ochrau cyfochrog (neu 'baralel')[1]. Mae'r llinellau cyferbyn o'r un hyd ac mae'r onglau cyferbyn hefyd yn gyfartal. Bathiad o'r Groeg yw paralelogram: παραλληλ-όγραμμον, sef siâp wedi'i lunio "allan o linellau cyfochrog").

Enghraifft o baralelogram: y rhomboid. Sylwer nad oes ganddo ongl sgwâr, na llinellau cyferbyn sydd ddim yn gyfochrog (paralel).
Paralelogramau wedi'u dosbarthu yn ôl cymesuredd.

Gellir cymharu'r pararelogram gyda'r trapesoid (weithiau: trapesiwm), sy'n bedrochr gyda dim ond un pâr o linellau paralel.

Y ffurf tebyg i'r paralelogram (dau ddimensiwn), mewn tri dimensiwn yw'r paralelepiped.

Mathau golygu

  • Rhomboid - pedrochor gyda'i ochrau cyferbyniol yn paralel, a hyd yr ochrau cyfagos ddim yn hafal. nid oes ganddo ongl sgwâr.[2]
  • Petryal - paralelogram gyda'i bedair ongl yn hafal.
  • Rhombws – paralelogram gyda'i bedair llinell yn hafal.
  • Sgwâr – paralelogram gyda'i bedair llinell o'r un hyd a'r bedair ongl yn hefyd yn hafal (4 ongl sgwâr)

Arwynebedd golygu

 
Gellir ail-drefnu'r paralelogram i ddangos ei fod yn petryal gyda'r un arwynebedd.

Gellir rhannu paralelogram gyda sylfaen b ac uchder h yn drapesiwm ac yn driongl ongl sgwâr, a'u hail-drefnu i fod yn betryal. Golyga hyn fod arwynebedd y pararelogram yr un fath â phetryal gyda'r un sylfaen a'r un uchder:

 

Mae arwynebedd paralelogram gydag ochrau B a C (BC) ac ongl   ar groestoriad y croesliniau yn cael ei roi fel:[3]

 

Yr hafaliad o ddefnyddio fformwla Heron yw

 

<clirio>

Cyfeiriadau golygu

  1. 'paralel' yw'r term Cymraeg yn ôl Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg adalwyd 25 Medi 2018.
  2. "CIMT - Page no longer available at Plymouth University servers" (PDF). www.cimt.plymouth.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-05-14. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Mitchell, Douglas W., "The area of a quadrilateral", Mathematical Gazette, Gorffennaf 2009.