Pedrochr
Mae pedrochr yn bolygon gyda phedair ymyl (neu ochrau) a phedair fertig (y pwynt lle mae dwy linell syth yn cyfarfod) neu 'gornel'. Mae'r petryal (rectangle) yn un math o bedrochor, a cheir sawl math arall (gweler isod). Mae rhai'n amgrwm ac eraill yn geugrwm; mewn pedrochr cefngrwm, mae un ongl fewnol yn fwy na 180 ° ac mae un o'r ddau groesliniau yn gorwedd y tu allan i'r pedrochr. 'Pevarc'hostezeg' yw'r gair Llydaweg a defnyddir amrwyiadau o'r gair Lladin quadrilatus gan nifer o ieithoedd gan gynnwys quadrilàter (Catalaneg) a quadrilatèr (Ocsitaneg).
Pan nad yw'r ochrau'n croestori, dywedir fod y polygon yn un syml.
Mae onglau mewnol pedrochr syml ABCD yn adio i gyfanswm o 360 gradd; neu mewn hafaliad:
Mae hyn yn anghyffredin gan fod fformiwla swm yr onglau mewnol n-agon yn (n − 2) × 180°.
Mae pedrochrau syml hefyd yn brithweithio (tessalate) drwy eu cylchdroi sawl tro o gwmpas y pwynt hanner ffordd ar hyd eu hochrau.
Rhai mathau
golyguY pedrochrau amgrwm
golygu- Pedrochr afreolaidd: pedrochr heb unrhyw ochr o'r un hyd. Yn UDA, gelwir y math hwn yn trapezium.
- Trapesiwm: mae o leiaf un pâr o ochrau gyferbyn yn gyfochrog. (trapezium (Lloegr) neu trapezoid (UDA)).
- Trapesiwm isosgeles: mae un pâr o ochrau gyferbyn yn gyfochrog ac mae'r onglau sylfaen o'r un hyd. (Isosceles trapezium (Lloegr) or isosceles trapezoid (UDA)
- Paralelogram: pedrochr gyda dau bâr o ochrau cyfochrog. Yma, mae'r ochrau gyferbyn a'r onglau gyferbyn o'r un hyd; mae'r croeslinau'n dwyrannu (bisect) ei gilydd.
- Rhombws: pedair ochr o'r un hyd. Mae'r croeslinau yn dwyrannu ei gilydd.
- Rhomboid: paralelogram lle mae ochrau anghyfartal anghyfartal o ran eu hyd ac mae rhai onglau yn arosgo (heb unrhyw onglau sgwâr).
- Petryal: mae pob ongl yn ongl sgwâr.
- Sgwâr: mae pob ongl yn ongl sgwâr a phob ochr yr un hyd.
- Barcut: mae dau bâr o ochrau cyfagos o'r un un hyd.