Rheilffordd Chwarel y Penrhyn

Roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn rheilffordd oedd yn cysylltu Chwarel y Penrhyn gerllaw Bethesda a dociau Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Dechreuodd y rheilffordd fel Tramffordd Llandygai yn 1798. Yn 1801, cymerwyd lle Tramffordd Llandygai gan Reilffordd y Penrhyn, yn dilyn trac gwahanol. Roedd tua 6 milltir o hyd.

Rheilffordd Chwarel y Penrhyn
Mathllinell rheilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1798 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.194167°N 4.082085°W Edit this on Wikidata
Hyd9.7 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN417 Edit this on Wikidata

Adeiladwyd Tramffordd Llandygai, oedd tua milltir o hyd, gan Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn. Roedd yn cludo fflintiau o felin fflintiau ger afon Cegin i Borth Penrhyn. Yn 1801, adeiladwyd rheilffordd i gysylltu Chwarel y Penrhyn a Porth Penrhyn, oedd yn defnyddio ceffylau a disgyrchiant i dynnu'r wagenni. Yn 1878 dechreuwyd defnyddio trenau ager.

Trac yr hen reilffordd, Tregarth.

Caewyd y rheilffordd yn 1962. Mae rhan o'r hen drac yn awr yn ffurfio rhan o Lôn Las Ogwen.