Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn

gwleidydd Prydeinig

Roedd Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn (1737 - 21 Ionawr 1808) yn dirfeddiannwr, perchennog caethweision a'r gŵr cyntaf i ddatblygu diwydiant llechi Cymru ar raddfa fawr pan gychwynodd Chwarel y Penrhyn.[1]

Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn
Ganwyd1737 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1808 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 12fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadJohn Pennant Edit this on Wikidata
MamBonella Hodges Edit this on Wikidata
PriodAnne Susannah Warburton Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd y Pennantiaid o gyff Pennantiaid Bychtwn a Downing yn Sir Fflint. Bu Richard Pennant yn Aelod Seneddol dros Peterfield yn Lloegr o 1761 hyd 1767, yna'n un o Aelodau Seneddol Lerpwl 1767-1780, ac eto o 1784 hyd 1790, pan ildiodd ei sedd i Syr Banastre Tarleton, oedd fel Pennant yn bleidiol i gaethwasiaeth. Yn 1796 ceisiodd am sedd Sir Gaernarfon, ond curwyd ef gan Syr Robert Williams. Yn 1783 crewyd ef yn Farwn 1af Penrhyn yn Swydd Louth yn Iwerddon.[1]

Roedd teulu Pennant yn berchen tiroedd helaeth yn Jamaica, ac yn 1765 priododd Ann Susannah Warburton, aeres teulu Warburton, oedd wedi etifeddu hanner stad y Penrhyn. Yn 1785 prynodd yr hanner arall o'r stad oddi wrth deulu Yonge. Datblygodd Chwarel y Penrhyn i fod y chwarel fwyaf yng Nghymru. Ef oedd y meistr tir cyntaf yng Nghymru i redeg y busnes llechi ei hun, yn hytrach na chymeryd rhent gan bartneriaethau o chwarelwyr. Yn 1798 agorodd Dramffordd Llandegai i gario llechi o’r chwarel i borthladd newydd Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Yn 1801 agorodd reilffordd i gymeryd lle'r dramffordd, Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, un o’r rheilffyrdd cynharaf.[1]

Dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Enwyd merch Dawkins, Juliana, a'i gŵr fel cyd-etifeddion yr ystad ar yr amod eu bod yn cymryd y cyfenw Pennant. Yn ddiweddarach daeth gŵr Juliana yn Farwn Penrhyn fel Edward Gordon Douglas-Pennant.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953).