Lôn Las Ogwen
Llwybr beicio yn sir Gwynedd yw Lôn Las Ogwen. Mae'n llwybr 10 milltir o hyd sy'n cysylltu Porth Penrhyn, ger Bangor, a Llyn Ogwen yn Eryri. Mae'n rhan o rwydwaith Sustrans. Gellir ei cherdded hefyd, yn enwedig ar y rhan ddidraffig.
Math | long-distance cycling route |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2347°N 4.1113°W |
Gan ddilyn y Lôn o Lyn Ogwen i Borth Penrhyn, mae ei llwybr yn rhedeg fel a ganlyn:
Mae'n gychwyn ger Llyn Ogwen a dilyn rhan o'r A5 hyd Fwthyn Ogwen ac yna disgyn yn syrth i lawr i Nant Ffrancon ar hyd ffordd un lôn - llwybr yr hen ffordd trwy Nant Ffrancon cyn adeiladu'r A5 - hyd at gyrion Bethesda ar ôl croesi Afon Ogwen. Yna mae'r lôn yn croesi'r afon eto ac yn dringo i bentref Tregarth ar ochr orllewinol Dyffryn Ogwen.
O Dregarth ymlaen mae'r lôn yn ddi-draffig ac yn dilyn hen draciau Rheilffordd Chwarel y Penrhyn drwy goedwigoedd llydanddeiliog, heibio i bentref Glasinfryn ac Ystad Ddiwydiannol Llandygái, dros Afon Cegin ac ymlaen i orffen ym Mhorth Penrhyn.
Bydd y llwybr yn cael ei gwblhau yn 2017 gyda agoriad llwybr drwy hen dwnnel trên rhwng Bethesda a Thregarth. Llysenw lleol y twnnel oedd 'Tynal Tywyll' a daeth hyn yn enw ar y band o Dregarth, Tynal Tywyll.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwaith ar dwnnel Lôn Las Ogwen ar fin cael ei gwblhau , BBC Cymru, 11 Mawrth 2017.
Dolenni allanol
golygu- Lôn Las Ogwen Archifwyd 2010-02-19 yn y Peiriant Wayback ar wefan Sustrans, gyda map o'r llwybr.
- Lôn Las Ogwen Archifwyd 2011-06-08 yn y Peiriant Wayback ar wefan Cyngor Gwynedd.