Rheilffordd y Friog

Mae Rheilffordd y Friog yn mynd o bentref Fairbourne ar hyd penrhyn i aber Afon Mawddach, lle mae fferi i Abermaw i gerddwyr.[1]

Rheilffordd y Friog
Mathcwmni cludo nwyddau neu bobl, rideable miniature railway, rheilffordd dreftadaeth Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1895 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArthog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6951°N 4.0508°W Edit this on Wikidata
Hyd3.2 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Rheilffordd y Friog
BOOT
Fferi ar draws
Afon Mawddach i Abermaw
uKBHFa
Gorsaf Fferi Abermaw
uTUNNEL1
twnnel Jack Steele
uHST
Arhosfa'r Aber
uSTR
uPSL
dolen basio
uHST
Arhorfa'r Dolen Basio
uHST
Arhosfa Golff
uHST
Arhosfa'r Traeth
uBUE
Croesfan Gornel Penrhyn
uBUE
Croesfan y Maes Parcio
uBUE
Croesfan Springfield
fCONTgq ufKRZ+BUE fCONTfq
croesfan troed
ueABZgl uexCONTfq
hen lein i waith brics
uKBHFe
Fairbourne
CONTgq BHFq CONTfq
Fairbourne

Hanes golygu

Adeiladwyd tramffordd i hwyluso adeiladu pentref Fairbourne, a daeth y dramffordd yn Rheilffordd y Friog, yn mynd o Fairbourne i aber Afon Mawddach ym 1895. Lled y traciau oedd 2 droedfedd. Cyllidodd y lein wreiddiol gan Arthur MacDougall, perchennog y cwmni blawd.[2]

Prynwyd y rheilffordd gan Narrow Gauge Railways Limited, cwmni Bassett Lowke, ym 1916[3] a newidiwyd lled y traciau i 15 er mwyn defnyddio locomotifau a cherbydau Bassett Lowke; roedd y fath reilffyrdd yn boblogaidd, ac mae rhai wedi goroesi hyd at heddiw.

Llogwyd y reilffordd i ddynion y fferi dros yr afon i Abermaw am sbel, ac ar un adeg, defnyddiwyd cyfuniad o drac 15 a 18 modfedd er mwyn defnyddio locomotif 18 modfedd. Caewyd y lein 1940.

Achubwyd y rheilffordd gan grŵp o ddynion busnes o Birmingham ym 1946, ac ailagorwyd y lein ym 1947. Perchennog y rheilffordd oedd John Wilkins. Fynnodd y rheilffordd yn y 60au a 70au cynnar, ond roedd yno ostwng mewn niferoedd o deithwyr trwy weddill y 70au ac 80au.

Prynwyd y rheilffordd gan deulu Ellerton ym 1984, a newidiwyd lled y traciau i deuddeg modfedd a chwarter[3]. Daeth 4 locomotif newydd, dau ohonynt o Reilffordd Réseau Guerlédan yn Llydaw . Maent i gyd yn gopïau hanner maint o locomotifau cledrau cul eraill, sef Yeo, Sherpa, Beddgelert a Russell. Gadawodd y locomotifau 15 modfedd i gyd, heblaw am Sylvia, sydd wedi cael ei ailadeiladu i fod yn addas i'r trac newydd.

Prynwyd y rheilffordd ym mis Ebrill 1995 gan yr athro Tony Morrison a'i wraig a'r meddyg Dr Melton a'i wraig, sydd wedi buddsodi'n drwm yn y rheilffordd a Chanolfan Rowen er mwyn eu gwarchod nhw. Cymerodd y rheilffordd statws elusennol yn Chwefror 2009[4].

Locomotifau Stêm golygu

Rhif ac enw Disgrifiad Hanes a statws presennol Lifrai Llun
Sherpa 0-4-0ST Dosbarth B Rheilffordd Darjeeling a Himalaya hanner maint. Cynlluniwyd gan Neil Simkins. Adeiladwyd 1978 ar gyfer Rheilffordd Réseau Guerlédan. Enw gwreiddiol: France.  
Sherpa, wrth groesi Croesfan Gornel Penrhyn
Yeo 2-6-2T. Copi hanner maint locomotif Rheilffordd Lynton a Barnstaple Cynlluniwyd ac adeiladwyd gan David Curwen ym 1978 ar gyfer Rheilffordd Réseau Guerlédan. Enw gwreiddiol: Jubilee.  
Yeo wrth ymyl Bocs Signalau Gorsaf Fferi Abermaw
Beddgelert Copi hanner maint locomotif Rheilffordd Cludrau Cul Gogledd Cymru. Cynlluniwyd ac adeiladwyd gan David Curzon ym 1979/80. Enw gwreiddiol: David Curwen. Yn arddangosfa a derbynfa Gorsaf reilffordd Fairbourne.  
Beddgelert wrth orsaf Fferi Abermaw
Russell 2-6-4T Copi locomotif Rheilffordd Eryri. Adeiladwyd gan Milner Engineering fel copi locomotif [[cwmni Kitson Rheilffordd Leek a Manifold; ailadeiladwyd ym 1985 i fod yn copi'r locomotif Rheilffordd Eryri. Gweithredol Coch  
Russell a'i drên wrth orsaf Fferi Abermaw

[5]

Locomotifau diesel golygu

Rhif ac enw Disgrifiad Hanes a statws presennol Lifrai Llun
Gwril Dosbarth DH25 Jenbach, adeiladwyd ym 1994 gan Gwmni Hunslet.  
Gwril wrth orsaf Fairbourne
Lilian Walter Adeiladwyd gan Guest Engineering ym 1961, efo enw gwreiddiol Silvia. Ailadeiladwyd yn Fairbourne ym 1985 i ymddangos yn locomotif Americanaidd. Addaswyd ar gyfer traciau lled deuddeg modfedd a hanner ym 1986. Yn cael ei atgyfodi, efo enw Tony er cof yr Athro Tony Anderson.  
Lilian Walter cyn i'r injan gael ei ailadeiladu yn y 2000au

[5]

Taith ar y rheilffordd

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Parc Genedlaethol Eryri[dolen marw]
  2. "Gwefan Narrow Gauge Pleasure". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-22. Cyrchwyd 2014-06-25.
  3. 3.0 3.1 Gwefan Miniature Railway World
  4. "Tudalen hanes y reilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-15. Cyrchwyd 2014-06-25.
  5. 5.0 5.1 Tudalen locomotifau ar wefan y rheilffordd[dolen marw]

Dolen allanol golygu