Mae Cwmni Hunslet yn gwmni ym mwrdeisdref Hunslet, i'r de o ganol Leeds, Swydd Efrog sydd wedi adeiladu locomotifau ers 1864, ac sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad rheilffyrdd y chwareli yng Nghymru, ac at reilffyrdd cledrau cul Cymru.

Cwmni Hunslet
Enghraifft o'r canlynolbusnes Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1864 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolKompanie Edit this on Wikidata
Cynnyrchswitcher Edit this on Wikidata
PencadlysHunslet, Leeds Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://hunsletengine.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Locomotif chwarel Hunslet 'Alice' yng gweithdy Reilffordd Llyn Tegid

Sefydlwyd y cwmni gan John Towlerton Leather ym 1864 pan agorodd ffatri ar Lôn Jack, Hunslet, ar safle ffowndri rheilffordd E.B.Wilson yn ymyl ffatriau Cwmni Manning Wardle, Cwmni Hudswell Clarke a gwaith Cwmni Kitson. Roedd Leather yn beiriannydd sifil a'i fwriad oedd pasio’r cwmni ymlaen i'w fab. Penodwyd James Campbell, mab rheolwr Cwmni Manning Wardle i fod yn gyfrifol am y gwaith a phrynodd y cwmni ym 1871 am £25,000. Locomotif cyntaf y cwmni oedd 0-6-0ST a adeiladwyd ym 1865 ar gyfer Thomas Brassey, ac a ddefnyddiwyd ganddo wrth adeiladu Rheilffordd Canolbarth Lloegr (neu 'Reilffordd y Midland').

 
Locomotif chwarel Hunslet ar Reilffordd Llyn Padarn

Adeiladwyd ‘Dinorwic’ y cyntaf o’u locomotifau chwarel ym 1870. Roedd defnydd o dramffyrdd yn ddelfrydol yn cnwareli llechi, yn lleihau difrod y llechi ac yn cyflymu’r proses o gludiant.

Erbyn 1902, roedd y cwmni wedi allforiau nifer o locomotifau, yr un cyntaf i Java.Gwerthwyd locomotifau iIwerddon, gan gynnwys locomotifau ungledrog y Rehilffordd Listowel a Ballybunion. Daeth y cwmni’n un cyfyngedig ym 1902. Bu farw James Campbell ym 1905, ond cedwyd rheolaeth y cwmni tu mewn i’r teulu. Gwerthwyd locomotifau mwy, megis locomotifau 2-8-4T i Reilffordd Antofagasta, Chile & Bolivia

 
'Blanche' ar reilffordd Ffestiniog

Parhaodd gwaith adeiladu locomotifau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys rhai i’r Adran Rhyfel; aeth llawer ohonynt i India wedi’r rhyfel. Wedi’r rhyfel, gwerthwyd rhagor o locomotifau tramer. Hefyd archebodd y Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban 90 o locomotifau 3F 0-6-0T ‘Jinty’, cynlluniwyd gan Fowler. Caeodd sawl cwmni arall,a phrynwyd Hunslet eu cynlluniau, gan gynnwys Cwmni Sharp Stuart a Chwmni Avonside.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynhyrchwyd locomotifau cledrau cul diesel milwrol, a hefyd locomotifau gwrthfflam ar gyfer glofeydd. Cynlluniodd Hunslet eu 0-6-0-ST dosbarth ‘,Austerity’, a chawson nhw eu hadeiladu hyd at 1964.

Adeiladwyd 8 locomotif cedrau cul Beyer-Garrett gan Hunslet Taylor, is-gwmni i Hunslet yn Johannesburg, Ne Affrica ar gyfer Rheilffyrdd De Affrica rhwng 1968 a 1968. O’r 50au ymlaen, gwnaeth y cwmni gwaith ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth, yn dechrau wrth atgyfodi locomotif rhif 4 o’r Rheilffordd Corris ar gyfer y Rheilffordd Talyllyn. Y locomotif stêm olaf adeiladwyd gan y cwmni yn Hunslet oedd ‘Trangkil Rhif 4' ar gyfer planhigfa siwgwr yn Jafa.

Roedd y cwmni’n arloeswyr yn y maes Diesel yn y 30au, ac hefyd cynhyrchiodd ceir Atilla. Mae hysbyseb yn cylchgrawn ‘The Engineer’ ar gyfer lori petrol cynhyrchwyd gan y cwmni ym 1907. Roedd Kerr Stuart wedi arbrofi efo locomotifau diesel, a pharhaodd Hunslet efo’r gwaith.

Wedi’r Ail Ryfel Byd, cynhyrchwyd mwy o locomotifau diesel gwrthfflam ar gyfer y Bwrdd Lo Genedlaethol. Hefyd, crewyd locomotif 0-6-0 diesel efo peiriant Cwmni Gardner, ac oedd o’n boblogaidd ar reilffyrdd diwydiannol. Adeiladwyd locomotifau diesel ar gyfer [[Rheilffyrdd Prydeinig hefyd, a daethont dosbarth 05.

 
Rhif 9, Rheilffordd yr Wyddfa

Rhwng 11986 a 1992, adeiladwyd 4 locomotif diesel gan Gwmni Hunslet ar gyfer Rheilffordd yr Wyddfa, yn defnyddio peiriannau diesel Rolls Royce.[1]

Crewyd pethau eraill gan y cwmni, gan gynnwys y Scootacar, Hunslet Attila, gweisg argraffu, peiriannau meddygol a wageni fforch godi. Cynhyrchwyd tractorau ar gyfer pyllau glo hed reilffyrdd, a thractorau mwy ar gyfer meysydd awyr.

 
'Ferret' ar Reilffordd y Trallwng a Llanfair

Gwerthwyd nifer fawr o locomotifau Waggonmaster i‘r Bord na Mona, y Fwrdd Mawn Wyddelig, perchennog y rhwydwaith mwyaf o reilffyrdd diwydiannol yn Ewrop.

Daeth Cwmni Andrew Barclay, Cwmni Greenwood a Batley a Chwmni Hudswell Clark yn rhan o Gwmni Hunslet yn y 70au ac 80au. Roedd streic y glowyr a diwedd y diwydiant glo’n ergyd i Hunslet, ond gwerthwyd locomotifau trydanol rac a phiniwn i Gwmni Twnnel y Sianel, ac roedd gwaith adeiladu a thrwsio ar gyfer Rheilffyrdd Prydeinig a Metro Tyne a Wear.

Ym 1987 daeth Cwmni Hunslet yn rhan o gwmni Telfos, ac ym 1991 daeth Telfos yn rhan o gwmni Jenbacher o Awstria. Adeiladwyd 43 uned trydanol ar gyfer gwasanaethau lleol ym Manceinion a Birmingham a hefyd cerbydau ar gyfer Rheilffordd Danddaearol Glasgow. Adeiladwyd locomotifau cledrau cul trydanol ar gyfer estyniad Lein Jwbili’r Rheilffordd Danddaearol Llundain, ond caewyd y ffatri yn Hunslet ym 1995. Daeth Hunslet yn rhan o Grŵp LH.

Datblygwyd locomotif 0-6-0 diesel newydd, dosbarth DH60C , yn 2010. Cymerwyd drosodd Grŵp LH gan gwmni o’r Unol Daleithiau, Walbrec yn 2012. Roeddent wedi prynu sawl gweithdy Seisnig arall yn barod. Mae is-gwmni, Cwmni Stêm Hunslet, wedi adeiladu locomotifa stêm newydd yn ddiweddar, gan gynnwys locomotifau chwarel Hunslet a dosbarth ‘Wren’ Kerr Stuart, yn ogystal â gwneud gwaith atgyweiro.[2]

 
Jerry M ym

Minffordd]] yn ystod Hunslet 125 ]]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan Rheilffordd yr Wyddfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-14. Cyrchwyd 2017-04-04.
  2. Gwefan leedsengine.info

Dolen allanol

golygu